Dechrau cadarn i Forgannwg yn erbyn Sir Gaerlŷr

  • Cyhoeddwyd
Kiran CarlsonFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Cyfrannodd Kiran Carlson gyda sgôr o 83 oddi ar 94 pêl

Bu'n ddechrau da i Forgannwg yn erbyn Sir Gaerlŷr wrth iddyn nhw orffen ar 331-8 ym Mhencampwriaeth y Siroedd yng Ngerddi Soffia ddydd Llun.

Bu gwelliant mawr yn eu perfformiad o'i gymharu â gweddill y flwyddyn, gyda'r tîm yn sefydlu partneriaethau cryf a phump o'r batwyr yn sgorio dros 50.

Arweiniodd Kiran Carlson y tîm gyda 83 oddi ar 94 pêl, ac mi gyrhaeddodd Craig Meschede 55.

Tom Taylor a Callum Parkinson oedd y mwyaf llwyddiannus o fowlwyr yr ymwelwyr, yn cymryd dwy wiced yr un.