Diwrnod campus i Forgannwg
- Cyhoeddwyd
Fe fydd tîm criced Morgannwg yn llygadu buddugoliaeth mewn gêm bencampwriaeth am yr eildro yn unig y tymor hwn wedi diwrnod campus o chwarae yn erbyn Sir Gaerlŷr.
Dechreuodd y tîm cartref yr ail ddiwrnod o chwarae yng Ngerddi Soffia ar 331 am 8 yn eu batiad cyntaf, ac fe lwyddon nhw i ychwanegu 28 at y cyfanswm yna gyda Tim van der Gugten yn cyrraedd ei 50.
Wrth i'r ymwelwyr ymateb i hynny, fe wnaeth bowlwyr Morgannwg synhwyro gwendid.
Fe wnaeth y pum bowliwr gyfrannu wicedi wrth gael yr ymwelwyr allan am 132 - mantais o 227.
Er i Forgannwg golli pedair wiced yn gyflym ar ddechrau'r ail fatiad fe ddaeth Chris Cooke i'r llain i sefydlogi pethau, ac erbyn 'r chwarae ddod i ben am y dydd roedd Morgannwg wedi cyrraedd 106 am 4.
Mae gan Forgannwg felly fantais o 333 gyda chwe wiced o'u hail fatiad yn weddill, a dau ddiwrnod o chwarae ar ôl.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Medi 2018