Dyn wedi marw ar ôl disgyn mewn storm
- Cyhoeddwyd
Mae dyn o Sir Gaerhrifryn wedi marw wedi ddo gael anaf i'w ben wrth ddisgyn mewn storm yn Llandudno yr wythnos ddiwethaf.
Roedd Jim Tattersall, 85 oed o Brierfield, yn Llandudno gyda'i wraig Ann ar 19 Medi wrth ddathlu eu pen-blwydd priodas 55 mlynedd.
Cafodd y ddau eu chwythu i'r llawr gan hyrddiad o wynt, a'u cludo i'r ysbyty. Cafodd Mrs Tattersall fan anafiadau, ond bu farw Mr Tattersall y diwrnod canlynol.
Wrth ddiolch i'r gwasanaethau brys, dywedodd Mrs Tattersall "na fydden nhw wedi medru gwneud mwy".
Ychwanegodd llefarydd ar ran y teulu eu bod wedi mynd i Landudno am eu dathliadau am ei fod yn "lle yr oedd y ddau'n hoffi ymweld ag e".
Roedden nhw'n cerdded yn ôl i'w gwesty ar ôl bod allan am baned pan gawson nhw'u chwythu i'r llawr gan achosi i Mr Tattersall daro'i ben ar y pafin.
Dywedodd Mrs Tattersall ei bod yn ddiolchgar iawn i bobl a stopiodd i'w helpu ac i'r "staff gwych yn yr ysbyty am gynorthwyo Jim yn ystod ei oriau olaf".