Ysbyty newydd yn rhan o gynllun ad-drefnu Hywel Dda

  • Cyhoeddwyd
Protestwyr yn rhan o orymdaith i arbed Ysbyty Dyffryn Aman
Disgrifiad o’r llun,

Protestwyr yn rhan o orymdaith i arbed Ysbyty Dyffryn Aman ddydd Mercher

Mae adeiladu ysbyty newydd yn rhan o gynllun sy'n cael ei ffafrio i ddiwygio'r gwasanaeth iechyd yn y gorllewin.

Bydd penderfyniad am newidiadau pellgyrhaeddol i Fwrdd Iechyd Hywel Dda yn cael ei wneud mewn cyfarfod arbennig ddydd Mercher.

Mae'n debygol y bydd y bwrdd yn penderfynu adeiladu ysbyty mawr newydd (gofal brys ac o flaen llaw) rhwng Arberth a Sanclêr.

Os felly, bydd Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli yn parhau'n ysbyty cyffredinol lleol.

Ond bydd Glangwili yng Nghaerfyrddin a Llwynhelyg yn Hwlffordd yn colli rhai gwasanaethau.

Mae'r ad-drefnu yn dilyn pryderon fod gwasanaethau iechyd wedi eu gwasgaru'n rhy denau yn yr ardal a rhybuddion y gallai rhai "chwalu" oherwydd cynnydd yn y galw a phrinder staff.

Protest

Gallai rhai ysbytai eraill weld newidiadau yn eu gwasanaethau hefyd.

Daeth nifer o brotestwyr ynghyd y tu allan i'r cyfarfod yng Nghaerfyrddin yn galw am arbed Ysbyty Dyffryn Aman, sef un o'r rhai dan fygythiad.

Yn ôl Stephen Crabb, aelod seneddol dros Breseli Penfro, mae'r penderfyniad tebygol yn gwneud "testun sbort" o'r ymgynghoriad.

Ychwanegodd bod llais pobl Sir Benfro wedi cael ei "anwybyddu" a bod y penderfyniad i gadw ysbyty llawn yn Llanelli yn un "gwleidyddol iawn".

Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru y byddai bwrw 'mlaen â'r opswin dan sylw yn "siomedig" ac yn "gyfle wedi ei golli".

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cyfarfod yn cael ei gynnal yn Neuadd y Sir, Caerfyrddin

Ym mis Ebrill, amlinellodd y bwrdd iechyd dri opsiwn ad-drefnu fyddai'n gweld newid mawr ym mhatrwm gofal.

Byddai ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd yn colli statws fel ysbyty cyffredinol 24 awr ym mhob opsiwn.

Daeth ymgynghoriad cyhoeddus ar gynnwys y newidiadau i ben ym mis Gorffennaf.

Yn ôl prif weithredwr Hywel Dda, Steve Moore, dyma oedd yr ymgynghoriad cyhoeddus "mwyaf a phwysicaf erioed" ar ddyfodol gofal iechyd yn y gorllewin.

Mae BBC Cymru ar ddeall y gallai'r opsiwn terfynol - fydd yn cael ei drafod yng nghyfarfod arbennig y bwrdd - fod yn gyfuniad o elfennau o'r opsiynau sydd eisoes wedi cael eu cynnig.

Opsiynau mis Ebrill

Yn gyffredin iddyn nhw i gyd:

  • Datblygu rhwydwaith o ganolfannau iechyd cymunedol. Byddai'r union batrwm yn dibynnu ar y penderfyniadau o ran ysbytai.

  • Dim newid mawr i wasanaethau yn ysbyty Bronglais, Aberystwyth

Opsiwn A

  • Adeiladu ysbyty mawr newydd (gofal brys a gofal wedi'i drefnu o flaen llaw) rhwng Arberth a Sanclêr. Ysbyty Glangwili Caerfyrddin, Tywysog Phillip Llanelli a Llwynhelyg yn newid i fod yn ysbytai cymunedol. (Byddai gwlâu yno ond nid gofal gan feddygon 24 awr)

Opsiwn B

  • Adeiladu ysbyty mawr newydd (gofal brys ac o flaen llaw) rhywle rhwng Arberth a Sanclêr. Ysbyty Tywysog Philip yn parhau'n ysbyty cyffredinol lleol. Glangwili a Llwynhelyg yn troi'n ysbytai cymunedol

Opsiwn C

  • Adeiladu ysbyty newydd (ar gyfer gofal brys yn unig) rhywle rhwng Arberth a Sanclêr. Glangwili'n troi'n ysbyty sy'n canolbwyntio ar driniaethau wedi eu trefnu o flaen llaw. Ysbyty Tywysog Philip yn parhau'n ysbyty cyffredinol lleol. Llwynhelyg yn troi'n ysbyty cymunedol.

Os yw'r cyngor iechyd cymuned lleol yn gwrthwynebu'r cynlluniau - mae'n bosib y bydd yn rhaid i'r Ysgrifennydd Iechyd wneud penderfyniad terfynol

Ond dywedodd Vaughan Gething ym mis Ionawr y gallai rhai gwasanaethau iechyd "ddymchwel" heb rybudd, oni bai fod 'na newidiadau pellgyrhaeddol a bod angen gwneud penderfyniadau "anodd" am wasanaethau lleol, os am sicrhau dyfodol hirdymor i'r gwasanaeth.

Dadansoddiad gohebydd iechyd BBC Cymru, Owain Clarke

Dyma rai o'r newidiadau mwyaf pellgyrhaeddol erioed i'r gwasaneth iechyd yn y gorllewin.

Y nod yw agor ysbyty newydd ond bydd dau o ysbytai mwya'r ardal yn colli gwasanethau fel unedau brys a wardiau arbenigol.

Mewn ymdrech i ateb pryderon mae penaethiaid yn dweud y byddan nhw'n edrych i gynyddu nifer y parafeddygon yn yr ardaloedd sydd bellaf o'r ysbyty newydd, ac ailedrych ar faint o wlau cymunedol sydd eu hangen mewn cymunedau fel Dyffryn Aman a De Penfro.

Ond mi fydd 'na ddicter ymhlith y rai sy'n poeni fod symud gwasanethau ysbytai yn bellach oddi wrthyn nhw yn peryglu bywydau.