Penderfyniad allweddol ar ddyfodol ysbytai y gorllewin
- Cyhoeddwyd
Bydd penderfyniad am newidiadau pellgyrhaeddol i'r gwasanaeth iechyd yng ngorllewin Cymru yn cael ei wneud mewn cyfarfod arbennig o Fwrdd Iechyd Hywel Dda heddiw.
Mae'n dilyn pryderon fod gwasanaethau iechyd wedi eu gwasgaru'n rhy denau yn yr ardal a rhybuddion y gallai rhai "chwalu" oherwydd cynnydd yn y galw yn ogystal â phrinder staff.
Ym mis Ebrill amlinellodd y bwrdd iechyd dri opsiwn ad-drefnu fyddai'n gweld newid mawr ym mhatrwm gofal.
Fe fyddai ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd yn colli statws fel ysbyty cyffredinol 24 awr ym mhob opsiwn - ond fe fyddai ysbyty cyffredinol newydd yn cael ei adeiladu rhywle rhwng Arberth a Sanclêr.
Daeth ymgynghoriad cyhoeddus ar gynnwys y newidiadau i ben ym mis Gorffennaf.
Heriau sylweddol
Mae'r bwrdd iechyd yn mynnu na allan nhw daclo heriau sylweddol os yw gwasanaethau yn "aros yn yr unfan".
Yn benodol mae'r newidiadau yn rhoi mwy o bwyslais ar gynnig gofal y tu fas i ysbytai ac mae'r bwrdd yn mynnu fod staff wedi chwarae rhan bwysig yn y broses o ddatblygu ac asesu'r opsiynau.
Ond mae'r cynlluniau wedi codi nyth cacwn mewn rhai ardaloedd.
Mae BBC Cymru yn deall y gallai'r opsiwn terfynol - fydd yn cael ei drafod yng nghyfarfod arbennig y bwrdd - fod yn gyfuniad o elfennau o'r opsiynau sydd eisoes wedi cael eu cynnig.
Opsiynau mis Ebrill
Yn gyffredin iddyn nhw i gyd:
Datblygu rhwydwaith o ganolfannau iechyd cymunedol. Byddai'r union batrwm yn dibynnu ar y penderfyniadau o ran ysbytai.
Dim newid mawr i wasanaethau yn ysbyty Bronglais, Aberystwyth
Opsiwn A
Adeiladu ysbyty mawr newydd (gofal brys a gofal wedi'i drefnu o flaen llaw) rhywle rhwng Arberth a Sanclêr. Ysbyty Glangwili Caerfyrddin, Tywysog Phillip Llanelli a Llwynhelyg yn newid i fod yn ysbytai cymunedol. (Byddai gwlâu yno ond nid gofal gan feddygon 24 awr)
Opsiwn B
Adeiladu ysbyty mawr newydd (gofal brys ac o flaen llaw) rhywle rhwng Arberth a Sanclêr. Ysbyty Tywysog Philip yn parhau'n ysbyty cyffredinol lleol. Glangwili a Llwynhelyg yn troi'n ysbytai cymunedol
Opsiwn C
Adeiladu ysbyty newydd (ar gyfer gofal brys yn unig) rhywle rhwng Arberth a Sanclêr. Glangwili'n troi'n ysbyty sy'n canolbwyntio ar driniaethau wedi eu trefnu o flaen llaw. Ysbyty Tywysog Philip yn parhau'n ysbyty cyffredinol lleol. Llwynhelyg yn troi'n ysbyty cymunedol.
Beth oedd canfyddiadau'r ymgynghoriad cyhoeddus?
Mae cwmni annibynnol Opinion Research Services (ORS) wedi dadansoddi'r ymateb i'r ymgynghoriad cyhoeddus.
Ymysg y prif ganfyddiadau:
Mwyafrif wedi eu hargyhoeddi bod angen newid ehangach - ond nifer am gadw'r gwasanaethau presennol yn eu hardaloedd penodol nhw.
Gwahaniaeth barn ynglŷn â'r cynlluniau penodol - staff ar y cyfan yn fwy cefnogol na'r cyhoedd
Mwy o gefnogaeth o lawer i Opsiynau A a B o'i gymharu ag C
Galw mawr am "ddewis gwahanol" yn Sir Benfro - hynny yw diogelu neu ehangu gwasanaethau yn Llwynhelyg
Barn y cyhoedd yn amrywio yn dibynnu ar leoliad
Pam bod bwrdd Iechyd Hywel Dda am newid pethau?
Mae gan y bwrdd y diffyg ariannol mwyaf o unrhyw fwrdd iechyd yng Nghymru - wedi gorwario £70m llynedd
Prinder staff a phroblemau recriwtio yn golygu fod y bwrdd yn gwario llawer, yn cyflogi staff dros-dro i lenwi cannoedd o wagleoedd
Dros hanner yr ysbytai yn hŷn na 30 oed
Galw mawr am ofal, y boblogaeth yn heneiddio, a heriau o ran darparu gofal mewn ardaloedd trefol a gwledig
Dyma'r cynllun ad-drefnu iechyd mawr cyntaf i'w gyflwyno ers i banel o arbenigwyr alw am "chwyldro" yn y ffordd mae gwasanaethau iechyd a gofal yn cael eu darparu yng Nghymru.
Os yw'r cyngor iechyd cymuned lleol yn gwrthwynebu'r cynlluniau - mae'n bosib y bydd yn rhaid i'r Ysgrifennydd Iechyd wneud penderfyniad terfynol
Ond dywedodd Vaughan Gething ym mis Ionawr y gallai rhai gwasanaethau iechyd "ddymchwel" heb rybudd, oni bai fod 'na newidiadau pellgyrhaeddol a bod angen gwneud penderfyniadau "anodd" am wasanaethau lleol, os am sicrhau dyfodol hirdymor i'r gwasanaeth.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Ionawr 2018
- Cyhoeddwyd30 Ionawr 2018