Gorchmynion diogelu brys: Swyddogion yn 'araf i ymateb'

  • Cyhoeddwyd
Trais yn y cartrefFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae'n bryderus bod "amrywiaeth sylweddol" yn y ffordd y mae heddluoedd gwahanol yn defnyddio'u hawl i ddiogelu unigolion maen nhw'n amau sy'n dioddef trais yn y cartref, yn ôl elusen.

Ers 2014 mae'n bosib i heddluoedd Cymru a Lloegr ofyn i ynadon am orchymyn gwarchodaeth brys (DVPO) sy'n para hyd at 28 diwrnod, ac yn gallu atal rhywun rhag mynd i'r cartref teuluol mewn achosion lle nad ydy'r unigolyn dan sylw wedi ei gyhuddo o drosedd.

Mae'r ystadegau diweddaraf yn dangos bod heddluoedd Cymru wedi delio â thros 30,000 o achosion posib o drais yn y cartref ers 2014 lle cafodd rhywun ei arestio ond ddim ei gyhuddo.

Ond dim ond yn 970 - 3% - o'r achosion hynny y gwnaethpwyd cais am orchymyn DVPO. Dywed y Swyddfa Gartref y bydd bil drafft newydd yn cynnwys mesurau ychwanegol i fynd i'r afael â'r broblem.

'Araf i ymateb'

Yn ôl yr elusen Cymorth i Ferched Cymru, mae'r gorchmynion yn rhoi cyfle ac amser i'r dioddefwyr posib feddwl am eu sefyllfa.

Ond maen nhw'n poeni bod gorchmynion yn aml yn cael eu torri am fod swyddogion yn "araf i ymateb" neu efallai ddim yn eu cymryd o ddifrif.

O'r herwydd, medd yr elusen, mae dioddefwyr "dal ddim yn teimlo'n ddiogel" hyd yn oed pan fo gorchymyn mewn grym, ac mae'n nhw'n "ofn" dweud wrth yr heddlu bod y sawl sy'n eu cam-drin yn anwybyddu'r cyfyngiadau dros dro.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae pryder bod dioddefwyr yn dal i fyw mewn ofn er bod gorchymyn mewn grym i'w cadw'n ddiogel

Yn ôl yr ystadegau, roedd yna 362 o achosion yng Nghymru ers 2014 o dorri amodau gorchmynion, ac mae'r elusen yn galw am wneud hynny yn drosedd ynddo'i hun.

Dywedodd rheolwr materion cyhoeddus yr elusen, Gwendoline Sterk, bod y gorchmynion "ond cystal â'r camau sy'n cael eu cymryd i gefnogi goroeswyr", gan gynnwys rhoi cyngor yn y cyfnod dros dro o ddiogelwch, ac i weithredu pan fo rhywun yn torri gorchymyn.

Ystadegau heddluoedd Cymru

  • Yn ardal Heddlu De Cymru roedd y nifer fwyaf o arestiadau yn y cyfnod dan sylw - 17,299 - a gorchmynion DVPO - 452.

  • Heddlu Dyfed-Powys oedd â'r ffigyrau isaf - 2,991 a 118.

  • Roedd yna 324 o orchmynion diogelu brys allan o 6,047 o arestiadau yn ardal Heddlu Gogledd Cymru. Dywedodd llefarydd fod y gorchmynion yn rhoi amser i gydweithio gyda dioddefwyr, y sawl sy'n eu cam-drin ac asiantaethau gwahanol er mwyn mynd at wraidd y sefyllfa.

  • Yn ardal Heddlu Gwent roedd yna 3,718 o arestiadau a 76 o orchmynion DVPO, sydd, medd llefarydd yn "arf effeithiol i ddelio â rhai digwyddiadau" a'u bod yn bwriadu "parhau i ddefnyddio'r tacteg yma pan fo'r amgylchadau'n briodol".

Mae arbenigwr yn y maes yn dweud bod pwysau ariannol ar wasanaethau sector cyhoeddus wedi cael effaith ar ba mor effeithiol ydy'r gorchmynion.

Dywedodd Amanda Robinson, Athro Troseddeg ym Mhrifysgol Caerdydd: "Roedd yna fuddsoddi mewn pwerau ar bapur heb gymaint â hynny o fuddsoddi mewn rhaglenni a hyfforddiant i swyddogion heddlu eu gweithredu."

Mater arall, meddai, oedd diffyg buddsoddi "yn y gefnogaeth gymunedol y mae angen ar ddioddefwyr" i gyd-fynd â'r pwerau newydd.

Dywedodd llefarydd y Swyddfa Gartref y bydd cynigion newydd y bil drafft yn cynnwys edrych i'r posibilrwydd o wneud torri gorchymyn DVPO yn drosedd.

Bydd hefyd yn ystyried "rhaglenni gorfodol i fynd i'r afael ag agweddau sylfaenol troseddwr" a defnyddio offer electroneg i fonitro a yw unigolion yn cadw at orchmynion.