Morgannwg yn ennill am y tro cyntaf ers mis Ebrill

  • Cyhoeddwyd
Michael HoganFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Fe wnaeth Morgannwg drechu Sir Gaerlŷr yng Nghaerdydd ddydd Mercher i sicrhau eu buddugoliaeth gyntaf ym Mhencampwriaeth y Siroedd ers mis Ebrill.

Roedd yr ymwelwyr angen sgôr o 403 yn eu batiad olaf i ennill y gêm, ond llwyddodd Morgannwg i'w bowlio allan am 270, gan ennill o 132 o rediadau.

Dyma oedd gêm olaf y tymor i'r sir o Gymru, a'r fuddugoliaeth gyntaf iddynt ers gêm gynta'r tymor.

Yn wir, dyma oedd buddugoliaeth gartref gyntaf Morgannwg ym Mhencampwriaeth y Siroedd ers mis Mehefin 2015.

Er y canlyniad ddydd Mercher, mae Morgannwg yn gorffen y tymor ar waelod yr Ail Adran.