Richard Hughes: Ffermwr bîff, defaid... a malwod
- Cyhoeddwyd
'Dyw Richard Hughes, sy'n ffermio Penfras Uchaf, yn Llwyndyrys ger Pwllheli, ddim yn ddieithryn i arallgyfeirio, ond mae ei syniad diweddaraf yn mynd â ffermio yng Nghymru i dir gwahanol iawn.
"Gydag ansicrwydd Brexit a grantiau amaethyddol, mae angen i ni ystyried pob math o fentrau arallgyfeirio er mwyn diogelu dyfodol fferm y teulu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol," meddai Richard.
"Mae ffermio llaeth, mentrau bîff a defaid, magu moch, darparu llety ar y fferm, sefydlu safle glampio a throi adeiladau fferm yn safle i'w rhentu a chyflogaeth oddi ar y fferm wedi darparu incwm gwerthfawr dros y blynyddoedd.
"Ond rydym ni bob amser wedi bod yn barod i addasu i ofynion y farchnad er mwyn sicrhau fod pob elfen o'r busnes yn perfformio ar ei orau."
Ateb y galw
Felly pan welodd Richard bod malwod yn ymddangos ar bron i bob bwydlen tra ar ei wyliau yn Ffrainc, dechreuodd wneud ychydig o waith ymchwil.
"Mae malwod, neu escargot, yn uchel mewn protein ond yn isel mewn calorïau. Mae llysnafedd malwod yn llawn maetholion sydd â phriodweddau gwrth-heneiddio, a gyda'r offer priodol mae modd ei gasglu, ei storio a'i werthu i gynhyrchwyr colur.
"Gellir 'cynaeafu' poteli o wyau malwod a'u gwerthu fel caviar malwod tra bod y malwod eu hunain yn medru cael eu gwerthu fel bwyd i nadroedd ac ymlusgiaid eraill."
Y cam cyntaf
Roedd yn sicr felly bod na farchnad i'w syniad newydd, ond oedd y fferm yn addas ar gyfer ffermio malwod? Y cam nesaf oedd gwneud mwy o waith ymchwil.
Roedd rhaid samplu pridd y llain sydd wedi ei ddynodi ar gyfer y fenter falwod ac yna, os oedd popeth yn gweithio yn ôl y cynllun, rhaid oedd taenu gwrtaith a glanhau'r pridd er mwyn sicrhau na allai unrhyw bryfaid na chwilod effeithio ar y preswylwyr newydd!
Mae Richard newydd ddychwelyd o gwrs mewn academi brîdio malwod yn Cherasco yn yr Eidal, sy'n adnabyddus yn rhyngwladol.
Yn ystod ei ymweliad â Cherasco, dysgodd Richard a grŵp bychan o fyfyrwyr rhyngwladol sut i adeiladu 'ffens' allanol a fyddai'n rhwystro creaduriaid eraill fel llygod rhag aflonyddu ar y malwod ac yn cadw malwod 'gwyllt' allan hefyd.
"Ar ôl adeiladu'r ffens allanol, bydd angen adeiladu corlannau tua 45m x 3.5m ar gyfer y malwod gyda ffens rhwyd blastig arbennig wedi'i osod o amgylch y corlannau," meddai Richard.
"Bydd ochrau pob corlan yn cael eu hau gyda meillion gwyn i ddechrau ac yna ysgellog, betys neu fresych gaeaf fel ysgallddail - dyma'r diet maen nhw'n ei hoffi ac mae'n magu malwod o ansawdd da."
Barod i fynd?
Dywedodd Richard fod ganddo nifer o brynwyr ar gael yn dilyn cysylltiadau a wnaeth ar ei ymweliad â Cherasco.
Maen nhw'n awyddus iddo ddechrau ei raglen frîdio gan fod y galw ar hyn o bryd yn uwch na'r cyflenwad. Ac mae ffynhonnell arall o gyllid yn codi hefyd:
"Rwy'n meddwl y byddai'n bosib hyrwyddo fferm falwod i ymwelwyr sydd eisiau dysgu rhywbeth sy'n hwyl ac yn ddiddorol, ac yn hollol wahanol yma yng Nghymru."