Cynghorau lleol yn galw am gymorth i atal toriadau

  • Cyhoeddwyd
Gwasanaethau cynghorau
Disgrifiad o’r llun,

Mae llymder wedi effeithio ar wasanaethau'r cyngor, gan effeithio ar wasanaethau sy'n hanfodol i'r henoed a phobl fregus

Mae cynghorau lleol wedi rhybuddio y bydd rhaid colli 7,000 o swyddi'n flynyddol os nad ydynt yn derbyn mwy o gymorth ariannol.

Golyga hynny golli 5% o weithlu'r cyngor, ond nid oedd arweinwyr y cynghorau sir yn gallu dweud faint o swyddi'n union fyddai'n cael eu colli drwy ddiswyddo gweithwyr.

Aeth yr ysgrifennydd cyllid Mark Drakeford i gyfarfod â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLLC) ddydd Iau, cyn iddo baratoi i gyhoeddi'r gyllideb yr wythnos nesaf.

Cafodd wybod bod wyth mlynedd o lymder yn mynd i arwain at dorri cyllidebau ysgolion, codi lefelau treth cyngor a chwtogi'r gwasnaethau sy'n cefnogi'r henoed a'r unigolion mwyaf bregus.

Angen seibiant

Cwynodd CLLC eto bod neuaddau'r cyngor wedi gweld mwy o doriadau na'r GIG.

Dywedodd prif weithredwr CLLC, Steve Thomas: "Mae'r rhybuddion wedi bod ymhob man, gyda chynghorau'n methdalu yn Lloegr a thoriadau enbyd i wasanaethau mae pobl fregus yn dibynnu arnynt, yn dangos effaith llymder parhaus.

"Mae angen seibiant ar drethdalwyr ar hyd a lled Cymru a'r ffordd orau i Lywodraeth Cymru sicrhau hyn yw cadw at eu gair ac ariannu gwasanaethau lleol."

Wrth ymateb dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Ry'n ni'n cydnabod y pwysau sy'n wynebu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, a dyna pam yr ydym - ac fe fyddwn yn parhau - i wneud popeth y gallwn i'w gwarchod rhag effeithiau gwaethaf llymder.

"Byddwn hefyd yn galw ar Lywodraeth y DU i ddod â'r polisi niweidiol a diangen yma o lymder i ben.

"Wrth baratoi cyllideb 2019-20, rydym wedi rhoi ystyriaeth ofalus i ystod eang o wasanaethau pwysig sy'n cael eu darparu gan lywodraeth leol ac y mae cymaint o bobl yn dibynnu arnyn nhw."