Galw am nawdd i gerddoriaeth Gymraeg

  • Cyhoeddwyd
Dafydd Iwan

Mae cyfarwyddwr cwmni recordiau Sain yn galw am ystyried "o ddifrif" sut mae ariannu cerddoriaeth Gymreig at y dyfodol.

Yn ôl Dafydd Iwan mae angen i nawdd cyhoeddus i gynnal y diwydiant.

Datgelodd Sain ddydd Mercher eu bod nhw'n haneru nifer eu staff, o 12 i chwech, wrth iddyn nhw ailstrwythuro.

Yn gynharach eleni, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fuddsoddiad o £1m mewn cronfa gerdd genedlaethol i gryfhau cerdd yng Nghymru.

Wrth siarad gyda Newyddion 9, dywedodd Dafydd Iwan bod angen gweithredu, neu bydd amrywiaeth eang o gerddoriaeth Gymraeg ddim yn cael ei recordio'n fasnachol yn y dyfodol.

"Rydan ni ar groesffordd," meddai.

"Fe fydd yn rhaid i'r llywodraeth a chyrff cyhoeddus sy'n ymwneud â'r diwylliant i feddwl o ddifri sut mae cynnal gweithgarwch cerddoriaeth Cymreig i'r dyfodol.

"Neu mi fydd o'n mynd yn ôl i fod yn weithgarwch rhan amser, amatur - iawn am hynny, ond dwi'n credu ei fod o'n haeddu gwell cynhaliaeth fel mae'r diwydiant llyfrau a chylchgronau a chyhoeddi ar bapur yn ei gael."

Disgrifiad o’r llun,

Mae recordiau Sain wedi bod yn gartref i gerddoriaeth Gymraeg ers bron i hanner canrif

Fe wnaeth Mr Iwan hefyd roi mwy o fanylion am y swyddi fydd yn cael eu colli yn Sain - sy'n cynnwys staff peiriannu, marchnata a dylunio.

Mae cronfa gwaddol cerddoriaeth Llywodraeth Cymru, gafodd ei chyhoeddi ym mis Chwefror, yn dwyn yr enw Anthem.

Y bwriad yw y bydd yn rhannu grantiau o hyd at £300,000 y flwyddyn o 2021 ymlaen, gyda'r arian hwnnw wedi ei gasglu o'r sector breifat, y sector gyhoeddus a'r trydydd sector.