Cwblhau'r gwaith ar ffordd Blaenau'r Cymoedd wedi 23 blynedd

- Cyhoeddwyd
Wedi 23 o flynyddoedd o waith a biliynau o bunnoedd wedi'u gwario, mae'r gwaith ar yr A465 - ffordd Blaenau'r Cymoedd - wedi dod i ben.
Cafodd darnau olaf un o'r prosiectau adnewyddu mwyaf costus yn y Deyrnas Unedig eu cwblhau dros nos - ond mae rhan o'r ffordd ger cylchfan Dowlais ar gau fore Sadwrn wedi gwrthdrawiad.
Gobaith y gwaith, sydd wedi costio mwy na £2bn, ydy rhoi hwb economaidd sylweddol i un o ardaloedd mwyaf difreintiedig Prydain, gan wella'r cysylltiad rhwng Cymru a chanolbarth Lloegr.
Mae gweinidogion Cymru yn ffyddiog y bydd y ffordd ar ei newydd wedd yn hwb i'r rhanbarth, ond mae gwrthwynebwyr wedi beirniadu yr amser y mae wedi'i gymryd i gwblhau'r gwaith a'r gost "ryfeddol".

Mae wedi cymryd 23 blynedd i gwblhau'r gwaith ar y ffordd
Llywodraeth Geidwadol Margaret Thatcher oedd y lywodraeth gyntaf i lunio rhaglen uwchraddio - yn 1990 - a hynny yn sgil tagfeydd cyson a damweiniau difrifol ar rannau o'r ffordd.
Dechreuodd y gwaith i'w gwneud hi'n ffordd ddeuol lawn pan oedd Tony Blair yn brif weinidog y DU yn 2002.
Nawr ar ôl gorwariant, oedi a heriau'r pandemig, gall gyrwyr deithio rhwng Abertawe yn y gorllewin a Sir Fynwy yn y dwyrain heb unrhyw waith ffordd am y tro cyntaf ers 23 mlynedd.
"Ymhen 50 mlynedd, bydd arbenigwyr yn edrych yn ôl ac yn dweud taw'r peth mwyaf y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud i wella cymunedau Blaenau'r Cymoedd yw adeiladu'r ffordd hon," meddai ysgrifennydd trafnidiaeth Cymru, Ken Skates.
"Mae hyn yn ymwneud â chreu swyddi, ffyniant, cyfleoedd a gwell cyswllt a bod o fudd i gymunedau ar draws y rhanbarth."
£40m y flwyddyn am 30 mlynedd
Y gwaith o ddeuoli 11 milltir o'r A465 rhwng Dowlais a Hirwaun oedd y cynllun cyntaf i gael ei gyflawni, gan ddefnyddio'r Model Buddsoddi Cydfuddiannol.
O dan y dull hwn dyfernir contractau i bartneriaid preifat i adeiladu a chynnal asedau cyhoeddus.
Yn gyfnewid am hyn, mae Llywodraeth Cymru yn talu ffi i'r datblygwr, a fydd yn talu cost adeiladu a chynnal a chadw'r prosiect, yn ogystal â'r llog.
Ar ddiwedd y cytundeb bydd yr ased yn cael ei drosglwyddo i berchnogaeth gyhoeddus.
Yn achos yr A465, cost y gwaith oedd £590m.
Bydd Llywodraeth Cymru yn talu £40m y flwyddyn am 30 mlynedd, cyfanswm o £1.14bn.
Mae Plaid Cymru wedi dweud bod y dull a ddefnyddiwyd i ariannu'r ffordd yn "wastraff arian cyhoeddus" a bod sawl cwmni preifat wedi elwa.
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi dweud bod y gost a'r oedi yn "debyg i 25 mlynedd o fethiant Llafur yng Nghymru" ac fe ychwanegon nhw y byddai'r pris terfynol bron wedi talu am ffordd liniaru'r M4 o amgylch Casnewydd - lle mae tua phedair gwaith yn fwy o draffig dyddiol.
Dywedodd Llywodraeth Cymru na fyddai'r gwaith wedi ei gwblhau heb ddefnyddio y cynllun hwn.

Cafodd darnau olaf y prosiect eu cwblhau dros nos
Mae'r ffordd yma yn teithio ar hyd parc cenedlaethol, hen dir meysydd glo eiconig yr ardal ac ar adegau mae'n agos at gartrefi.
Dros y blynyddoedd mae'r gwaith wedi ei wneud mewn chwe cham, a hynny er mwyn rheoli'r perygl posib i yrwyr.
Mae bron i 70 strwythur, gan gynnwys 40 pont newydd a dwsin o gyffyrdd, wedi eu hadeiladu yn ystod y degawdau diwethaf.
Mae gweithwyr hefyd wedi plannu 285,000 o goed i liniaru'r effaith amgylcheddol sylweddol - gan wrthbwyso mwy na saith miliwn cilogram o CO2 y flwyddyn.
Mae creaduriaid, gan gynnwys ystlumod, pathewod a madfallod dŵr cribog, hefyd wedi cael eu symud.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd28 Tachwedd 2017