Colli swyddi wrth i Recordiau Sain ailstrwythuro

  • Cyhoeddwyd
recordiau SainFfynhonnell y llun, Sain

Mae un o labeli cerddoriaeth hynaf Cymru wedi penderfynu ailstrwythuro, gan arwain at golli bron i hanner ei staff.

Bydd Sain, sydd ar hyn o bryd yn cyflogi oddeutu 12 - gyda dwy o'r swyddi hynny'n rhai cysylltiol - yn colli chwech o swyddi.

Lleihad yng ngwerthiant CDs, cynnydd mewn ffrydio cerddoriaeth ar y we a lleihad ym mhris breindaliadau sydd wedi arwain at yr ailstrwythuro.

Yn ôl Dafydd Iwan, un o'r sylfaenwyr a chyfarwyddwyr y cwmni, mae Sain "wedi bod yn ymladd hyn ers blynyddoedd" ac mae "torri'n ôl i oroesi" yn annatod ar gyfer amddiffyn archif y label.

'Bwrlwm amatur'

Cystadlu gyda gwasanaethau ffrydio a phlatfformau lle mae modd gwrando ar gerddoriaeth am ddim yw'r brif her sydd wedi wynebu Sain dros y blynyddoedd diwethaf.

Wrth drafod yr ailstrwythuro, dywedodd Mr Iwan: "Mae 'na gynulleidfa [i gerddoriaeth], ond nid un sy'n barod i dalu."

Mynegodd bod cael "llai o arian yn troi yn yr economi" yn gyffredinol wedi effeithio ar y label ac hefyd ar y siopau sy'n stocio'i chryno-ddisgiau.

Er bod nifer o fandiau newydd Cymraeg yn ymddangos, dywedodd Mr Iwan bod y diwydiant ei hun, fel busnes, yn brwydro i oroesi.

"Mae 'na fwrlwm mawr gyda ffrindiau yn creu labeli ar lefel amatur, ond mae'r diwydiant ei hun yn crebachu," meddai.

Un o'r ffactorau pwysicaf dros ailstrwythuro oedd gweithredu i amddiffyn archif y cwmni, sy'n cynnwys cerddoriaeth Cymraeg a Chymreig sy'n dyddio'n ôl i'r 1950au.

Yn ôl Mr Iwan, mae nifer o labeli Saesneg hefyd yn gorfod dirwyn i ben, ac nid yw'r broblem o ymdopi gydag arferion gwrando newydd wedi effeithio ar Sain yn unig.

Ychwanegodd bod cyfarwyddwyr Sain yn "dal i drafod gyda phartneriaid amrywiol yn y sector cyhoeddus i warchod yr archif, a gweithio at sefydlu cwmni cymunedol, nid er elw".

Dywedodd hefyd bod Sain yn "gorfod torri'n ôl i oroesi" a bod y broses o ailstrwythuro yn parhau ar hyn o bryd.

Er y bydd swyddi'n cael eu colli, mae'r cwmni wedi pwysleisio nad yw'r ailstrwythuro yn effeithio ar gyhoeddiadau na breindaliadau artistiaid.