Darganfod derwen unigryw yng ngerddi Aberglasne
- Cyhoeddwyd

Mae math unigryw o'r dderwen wedi ei darganfod yng ngerddi Aberglasne yn Sir Gaerfyrddin.
Mae'r goeden ifanc yn groesiad o'r dderwen Seisnig, y Quercus robur, a'r Dderwen Gymreig, Quercus petraea.
Yn ôl prif arddwr y gerddi, Joseph Atkin, fe gafodd y darganfyddiad ei wneud yn sgil ymdrechion i sicrhau parhad un goeden arbennig yn Aberglasne.
"Tua 20 mlynedd yn ôl, roedd yna hen dderwen fendigedig yn Aberglasne oedd â dail rhanedig, byseddog, ond roedd hi'n dod i ddiwedd ei hoes," meddai.
"Penderfynwyd epilio'r goeden drwy gymryd rhan ohoni a'i impio ar goeden ifanc.
'Unigryw'
"Yn ogystal â bod yn bwysig i'r gerddi, roedd y goeden yn arbennig oherwydd ei dail rhanedig, ond doedden ni ddim yn sylweddoli ei bod hi'n unigryw."
Esboniodd Mr Atkin iddyn nhw ddysgu am bwysigrwydd y dderwen wreiddiol, pan ddaeth arbenigwr i'r gerddi yn ddiweddar: "Ychydig wythnosau yn ôl daeth y dendrolegydd Eike Jablonski i Aberglasne a chymryd at y goeden yn fawr.
"Dangosodd ei waith ymchwil fod y goeden yn wahanol i fathau eraill o'r dderwen, a doedd e erioed wedi gweld disgrifiad ohoni o'r blaen."
Y gobaith nawr yw y bydd 'Quercus Aberglasney' yn mynd ar gofrestrau swyddogol, ac y bydd Mr Jablonski yn ei gynnwys mewn cyflwyniad ar goed derwen newydd yng Nghaliffornia fis nesaf.
Mae Aberglasne hefyd yn cymryd camau i warchod dyfodol y goeden drwy ei hepilio ymhellach, yn y gobaith y bydd ar gael i'w phrynu yn y dyfodol.