Cynnal angladd y hyfforddwr bocsio Enzo Calzaghe

  • Cyhoeddwyd
Angladd

Cafodd angladd yr hyfforddwr bocsio, Enzo Calzaghe ei gynnal mewn capel yn Nhrecelyn ddydd Gwener.

Bu farw Calzaghe ar 17 Medi yn 69 mlwydd oed.

Mr Calzaghe oedd yn hyfforddi ei fab Joe wrth iddo gipio pencampwriaeth y byd mewn dau gategori pwysau gwahanol, mewn gyrfa ddiguro o 46 gornest.

Er nad oedd ganddo unrhyw brofiad cyn hyfforddi ei fab, fe wnaeth Mr Calzaghe hefyd lwyddo i sicrhau pencampwriaethau'r byd i Gavin Rees ac Enzo Maccarinelli.

Ffynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Joe Calzaghe (dde) yn cael ei hyfforddi gan ei dad drwy gydol ei yrfa ddiguro o 46 gornest

Ymysg y rhai oedd yn bresennol oedd cyn pencampwr bocsio'r byd, Nathan Cleverly, a ddywedodd bod Mr Calzaghe yn "athrylith".

Mewn datganiad yn dilyn ei farwolaeth dywedodd y teulu eu bod yn "diolch i'r cyhoedd am eu dymuniadau da, yn enwedig y llif o gefnogaeth o'r gymuned focsio".

"Fe wnaeth Enzo fyw bywyd anghredadwy y tu mewn a thu allan i'r gampfa ac mae ei golled yn ergyd i'r teulu cyfan."