'Peidiwch camarwain ar Brexit' meddai Carwyn Jones

  • Cyhoeddwyd
Carwyn Jones

Chwe mis cyn i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd, mae Prif Weinidog Cymru wedi dweud y dylai Theresa May rhoi'r gorau i gamarwain y cyhoedd gyda honiadau anwir am Brexit.

Yn ôl Carwyn Jones, mae honiad Prif Weinidog y DU mai'r "unig ddewis sydd ar gael i ni yw cytundeb Chequers neu ddim cytundeb o gwbl yn anwiredd llwyr", gan ddweud fod parhau i fynnu hynny yn niweidio democratiaeth.

Byddai gorfodi pobl i ddewis rhwng "Brexit caled, trychinebus" a bod heb gytundeb o gwbl yn "hollol anghyfrifol" meddai.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU eu bod yn "gweithio'n galed i sicrhau cytundeb sydd yn gweithio ar gyfer pob rhan o'r DU".

Ychwanegodd Mr Jones: "Mae fy Llywodraeth i wedi dangos bod ffordd arall ar gael a fyddai'n diogelu swyddi a'n heconomi, ac sy'n gyson â chanlyniad y refferendwm a safbwynt negodi'r Undeb Ewropeaidd.

"Yr unig ffordd o ddiogelu swyddi ac economi Cymru yw drwy sicrhau mynediad llawn a dirwystr at y Farchnad Sengl a chytuno ar undeb tollau."

'Buddiannau'r wlad'

Dros flwyddyn a hanner yn ôl fe wnaeth Llywodraeth Cymru gyhoeddi cynigion yn seiliedig ar weld y DU yn parhau i gymryd rhan yn y Farchnad Sengl ac mewn undeb tollau.

Mae Diogelu Dyfodol Cymru, dolen allanol yn "gynllun ymarferol, seiliedig ar dystiolaeth, a all gyflawni ar gyfer pob rhan o'r Deyrnas Unedig," medd Mr Jones.

Eisoes mae Theresa May wedi gwrthod y syniad o'r DU yn parhau yn aelodau o'r undeb dollau a'r Farchnad Sengl.

Mae cytundeb Chequers, sef y cynnig a gyflwynwyd gan Ms May yn Salzburg yn ddiweddar, yn awgrymu 'trefniant tollau' a 'llyfr rheolau' ar gyfer mewnforio ac allforio nwyddau i'r UE, ond mae hynny'n brin o aelodaeth lawn o'r ddau, ac fe gafodd y cynnig ei wrthod gan y 27 o wledydd eraill yr UE.

Ychwanegodd Mr Jones: "Gyda dim ond chwe mis i fynd, rhaid i Brif Weinidog y DU roi buddiannau'r wlad o flaen buddiannau ei phlaid, a gweithio gyda'r UE i ddod i gytundeb sy'n diogelu ffyniant a llesiant pobl ar draws y DU."