Diweddglo dadlennol i gloddfa archeolegol Caerfyrddin
- Cyhoeddwyd
Mae cloddfa, sydd wedi ei disgrifio fel un o'r pwysicaf yng Nghymru o safbwynt archaeoleg, wedi cael ei gorchuddio a'r tir wedi ei ddychwelyd i ddatblygwyr.
Fe wnaeth archeolegwyr dreulio tri mis yn cloddio ar un o brif strydoedd Caerfyrddin, gan wneud darganfyddiadau sylweddol yn y broses.
Roedd y gloddfa yn un o amodau rhoi caniatâd i godi bloc o fflatiau ar y safle ar Heol y Prior.
O ganlyniad i'r darganfyddiadau mae Archaeoleg Cymru nawr yn credu bod y dref Rufeinig wedi ei sefydlu yn llawer cynt, a'i bod yn dref lewyrchus o statws.
Dechreuodd y gwaith wedi i hen garej gael ei dymchwel, ond cyn i'r gwaith o godi cartrefi ar gyfer Cymdeithas Tai Bro Myrddin ddechrau.
Dau lefel yn is
Wedi deufis o gloddio roedd y tîm yn credu eu bod wedi olrhain dyddiau cynharaf stryd siopa Rufeinig, a doedden nhw ddim yn disgwyl darganfod llawer mwy.
Ond yna fe ddaeth dau lefel is o adeiladau pren eu canfod, ynghyd â darnau arian.
Er nad ydyn nhw wedi cael eu dyddio yn gywir, y gred yw eu bod o ran gyntaf yr Ail Ganrif.
Cyfarwyddwr y prosiect yw Phil Poucher, a dywedodd: "Os fedrwn ni gysylltu'r darnau arian gyda'r adeiladau, yna mae gennym y dystiolaeth gynharaf o drefedigaeth yng Nghaerfyrddin.
"Gallai hyn fod yn dystiolaeth bendant fod y Rhufeiniaid wedi setlo yma yn gynt nag oedden ni wedi ei gredu."
Wrth i'r gloddfa ddod i ben, ychwanegodd Mr Poucher: "Mae'n glir bellach nad rhyw dref fechan ar gyrion gwareiddiad oedd Caerfyrddin, ond tref o statws oedd yn gysylltiedig â phob rhan o'r ymerodraeth.
"Roedd y gwaith yn gyffrous iawn, ac mae'n beth prin cael gweithio ar safle sydd â'r fath gyfoeth o ddeunydd Rhufeinig yn y rhan yma o Gymru."