Cadw cath draw o Ganolfan Ganser Felindre

  • Cyhoeddwyd
Cath FelindreFfynhonnell y llun, @AmyLloydWrites

Mae Canolfan Ganser Felindre yng Nghaerdydd wedi gwadu honiadau eu bod wedi cyflogi aelod o staff i gadw cath draw o'r adeilad.

Ond mae'r ganolfan yn dweud eu bod yn gwneud "popeth y gallwn ni" i ddiogelu cleifion rhag yr anifail.

Mae'r gath yn eiddo i gyn-glaf yn y ganolfan oedd wedi derbyn triniaeth rai blynyddoedd yn ôl.

"Mae'r gath wedi parhau gyda'r ddefod yma [o geisio mynd mewn i'r adeilad] er i'w berchennog orffen triniaeth gyda ni," meddai llefarydd ar ran Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre.

"Mae'n wir dweud bod y gath wedi dod yn rhyw fath o seleb lleol gyda rhai o'n cleifion ond yn sicr nid yw'n wir ein bod ni wedi cyflogi rhywun i gadw'r gath rhag mynd fewn i'r adeilad.

"Mae gennym ni gyfrifoldeb i gynnig amgylchedd saff a glân i'n cleifion a'n staff ac, er gwaetha'r stori dwym galon tu ôl i hyn, rydym yn gwneud popeth y gallwn ni i gadw'r gath draw rhag mynd fewn i'r adeilad."

Ffynhonnell y llun, @AmyLloydWrites