Yr Almaenes sy'n bencampwr dros y Gymraeg
- Cyhoeddwyd
Gwyliau ym mynyddoedd Eryri ac ar draethau gogledd Cymru ddaeth â Daniela Schlick o'r Almaen i Gymru gyntaf. Yna, clywodd yr iaith Gymraeg mewn swyddfa bost yng Nghaernarfon, a newidiodd ei bywyd yn llwyr.
Yn wreiddiol o ardal Sacsoni yn yr Almaen roedd Dani, fel mae'n well ganddi gael ei galw, wedi bod yn byw yn Berlin ers 15 mlynedd cyn penderfynu newid ei bywyd yn llwyr, dysgu Cymraeg a symud i Gymru i fyw yn 2015.
Ddwy flynedd wedyn roedd hi'n un o ymgeiswyr gwobr Dysgwr y Flwyddyn ac yn 2018 mae hi'n un o bencampwyr Diwrnod Shwmae Su'mae, dolen allanol, ymgyrch i annog pobl i ddechrau pob sgwrs yn Gymraeg a hybu'r iaith.
"O'n i ar wyliau yn teithio gyda ffrindiau i'r Alban, Iwerddon a Chymru tua 13 mlynedd yn ôl ac fe wnes i syrthio mewn cariad â Chymru, do'n i ddim eisiau gadael," eglurodd wrth BBC Cymru Fyw.
"Ro'n i'n aros ger Cricieth ac yn teithio i Eryri, Pen Llŷn, Ynys Môn, ac ro'n i wrth fy modd, mae'n ardal mor hyfryd.
"Flynyddoedd wedyn ddes i nôl ar wyliau gyda ffrind a phenderfynu mod i eisiau dysgu Cymraeg achos o'n i wrth fy modd efo'r iaith.
"Ro'n i wedi clywed am yr iaith a darllen amdani mewn llyfrau teithio. Wedyn wnes i sylwi bod yr iaith yn fyw yma.
"Ro'n i'n sefyll yn swyddfa'r post yng Nghaernarfon a phawb yn siarad Cymraeg. Roedd yn brofiad grêt - ro'n i'n synnu pa mor bresennol yw'r iaith, roedd yn cŵl.
"Wedyn nes i ddechrau dysgu'r iaith mewn ysgol haf ym Mangor am ddwy flynedd cyn i mi benderfynu mod i eisiau symud. Roedd yn amser am newid.
"Nes i feddwl rŵan neu byth. 'Sgen i ddim byd i'w golli, 'sgen i ddim plant, dim ond fi sydd, felly roedd yn benderfyniad eitha' hawdd i fi jyst penderfynu be' dwi eisiau ei wneud. Os 'dio'n gweithio, grêt, os na, dwi'n medru mynd yn ôl i'r Almaen. Ond dwi wrth fy modd a dwi ddim eisiau mynd nôl!"
Mae hi bellach yn byw ym Mhorthaethwy ym Môn ac yn gweithio i Fentrau Iaith Cymru.
Sut iaith ydy'r Gymraeg?
"Dwi wrth fy modd efo'r Gymraeg, mae wir yn gwneud lles i mi, mae'n dda i'r enaid.
"Mae'n ddyfnach na Saesneg, mae 'na fwy o liw yn yr iaith a mwy o rhythm. Mae'n anodd egluro ond mae lot o bethau yn y Gymraeg am deimladau, 'dio ddim jyst am ffeithiau.
"Weithiau 'dio ddim yn bosib cyfieithu'r geiriau, efo lot o eiriau mae 'na ryw deimlad ac mae hynna wir yn neis. Mae'n wahanol yn Saesneg, ac mewn Almaeneg hefyd."
Beth arall sy'n wahanol rhwng y ffordd Gymreig ac Almaenig?
"Mae na wahaniaeth yn y ffordd mae pobl yn gwneud pethau. Mae 'na ryw ragfarn am Almaenwyr - ein bod ni'n drefnus iawn ac yn effeithiol, ac mae'n wir am lot o bobl.
"Yng Nghymru 'dydi hi ddim mor bwysig bod yn drefnus, mae'n bwysicach bod yn gymdeithasol. Sy'n neis iawn.
"Weithiau yn yr Almaen dwi'n meddwl 'mi fasa'r ffordd Gymreig yn well rŵan' neu weithiau yma dwi'n meddwl 'mi fasai ychydig bach o'r ffordd Almaenig yn gweithio'n well'!
"Dwi'n dweud pethau'n 'syth ymlaen' a 'dio ddim yn gweithio bob tro yng Nghymru - dydi pobl ddim yn dweud pethau. Jyst bod yn glên maen nhw, sy'n fine, ond mae hwnna'n anodd - ond fi sy'n gorfod ymdopi efo fo wrth gwrs, achos nes i ddewis byw yma.
"Ond pethau bychain ydyn nhw. Dydych chi ddim yn gallu dysgu pethau fel hyn."
"Mae lot o ganu yn y Gymraeg hefyd, lot lot mwy nag yn yr Almaeneg," meddai Dani, sy'n mwynhau bod yn aelod o Gôr Dros y Bont.
Lle ydi adref erbyn hyn?
"Y ddau le - es i adra i'r Almaen yn yr haf ond pan ddois i nôl, ddois i adra hefyd!
"O ran hunaniaeth, dwi rhywle rhwng y ddau. Mae hunaniaeth yn rhywbeth cymhleth. Almaenes ydw i - ges i ngeni a fy magu yn yr Almaen ac Almaeneg yw fy mamaith. Ond dwi'n teimlo'n Gymraeg, yn siarad Cymraeg, ond byddai'n ormod dweud fy mod yn teimlo fel Cymraes.
"Rydw i eisiau aros yma ar hyn o bryd i ddysgu mwy am yr iaith a byw mwy yn yr iaith - a chanu.
"Ac mae cael y môr a'r mynyddoedd o' nghwmpas i - medru mynd i'r traeth mewn chwarter awr neu i'r mynyddoedd mewn chwarter awr - yn braf iawn."
Ar ddiwrnod Shwmae Su'mae, dolen allanol bydd Dani'n hyrwyddo'r iaith yn ei hardal: "Mae'n bwysig i godi ymwybyddiaeth ac i fagu hyder dysgwyr. Mae hi mor anodd i gymaint o bobl dechrau sgwrs yn y Gymraeg," meddai.
"Mae'r diwrnod yn gyfle gwych i ddysgwyr ddechrau sgwrsio yn y Gymraeg - ac i Gymry Cymraeg ddechrau siarad Cymraeg efo dysgwyr."