Galw am gyfyngiadau 20mya cenedlaethol i ardaloedd trefol
- Cyhoeddwyd
Mae angen i Lywodraeth Cymru benderfynu ar gyfyngderau cyflymder o 20mya mewn ardaloedd trefol ar lefel genedlaethol, yn ôl grŵp ymgyrchu.
Mae Rod King, sylfaenydd a chyfarwyddwr 20's Plenty, yn galw ar y llywodraeth i newid y dull presennol o adael i awdurdodau lleol benderfynu ar derfynau cyflymder fesul ardal.
Mewn cynhadledd ddydd Mawrth, bydd yn cyflwyno'r alwad o flaen Aelodau Cynulliad, arbenigwyr ac ymgyrchwyr.
Yn ôl Mr King mae "budd i iechyd cyhoeddus, i'r economi ac i'r amgylchedd" wrth leihau cyfyngiadau cyflymder ardaloedd poblog i 20mya.
Ers mis Ebrill 2018, cafodd yr hawl i osod terfynau cyflymder cenedlaethol ei ddatganoli.
'Budd gwirioneddol' i gymunedau
Dywedodd Mr King: "Mae cyfyngiad o 20mya yn cynyddu safon bywyd ac yn cyrraedd uchelgeisiau Cenedlaethau'r Dyfodol, Teithio Llesol ac Iechyd Cyhoeddus Cymru."
Ychwanegodd y byddai modd i Lywodraeth Cymru "wthio ymlaen" a sicrhau terfynau cyflymder o 20mya mewn ardaloedd trefol yn genedlaethol "heb anfanteision drud a thrafferthus o'i wneud fesul awdurdod".
"Gall penderfynu ar 20mya mewn ardaloedd trefol gyfuno gwerth am arian a chysondeb gyda hyblygrwydd lleol i gyflwyno budd gwirioneddol i bob cymuned."
Wrth drafod y mater ym mis Mehefin, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod y gwaith ymchwil i'r effaith o leihau cyfyngiadau cyflymder ar lefel genedlaethol wedi profi'n aneglur.
"Rydym yn parhau gyda'r gwaith ymchwil yn y maes yma ac yn gweithio'n agos gyda'r Adran Drafnidiaeth sydd wedi comisiynu gwaith ymchwil tair blynedd er mwyn ystyried y budd o ostwng cyfyngiadau cyflymder mewn parthau 30mya."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Mehefin 2018
- Cyhoeddwyd11 Ebrill 2018