Galw am osod terfyn cyflymder 20mya mewn ardaloedd trefol

  • Cyhoeddwyd
Arwydd 20 milltir yr awrFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Mae ymgyrchwyr yn gobeithio gostwng yr uchafswm o 30 i 20mya mewn ardaloedd trefol

Mae iechyd pobl mewn peryg o ganlyniad i fethiant yr awdurdodau i leihau'r uchafswm cyflymder, yn ôl ymgyrchwyr.

Maen nhw eisiau gweld y terfyn yn cael ei ostwng o 30 i 20mya mewn ardaloedd trefol yng Nghymru.

Yn gynharach yn y mis fe wnaeth Llywodraeth Cymru dderbyn yr hawl i osod terfynau cyflymder cenedlaethol.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi bod yn ymchwilio'r mater, ond dywedodd y llywodraeth fod darganfyddiadau'r ymchwil hyd yma yn "amhendant".

'Llywodraeth yn anghywir'

Ers 1 Ebrill mae gan weinidogion Cymru'r pŵer deddfwriaethol i newid terfynau cyflymder Cymru.

Mae gan awdurdodau lleol hefyd yr hawl i addasu terfynau cyflymder yn eu hardaloedd yn dilyn ymgynghori â thrigolion lleol.

Dywedodd y grŵp ymgyrchu 20's Plenty For Us fod safbwynt y llywodraeth yn anghywir a'u bod nhw angen gweithredu ar frys.

Mae Anna Semleyn, llefarydd ar ran y grŵp yn credu fod "nifer o resymau" dros leihau'r uchafswm cyflymder.

£2m fyddai cost gweithredu'r newidiadau hyn ar hyd Cymru gyfan yn ôl yr ymgyrchwyr.

Ychwanegodd Mrs Semleyn fod gostyngiad yn yr uchafswm cyflymder yn cael ei argymell gan sawl sefydliad, gan gynnwys y Gymdeithas Iechyd Rhyngwladol.

'Mwy o ymchwil'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod nhw'n parhau i gefnogi penderfyniadau awdurdodau lleol ynglŷn â lleihau terfynau cyflymder mewn achosion priodol.

"Er bod y gwaith ymchwil yn parhau i fod yn amhendant, rydym ni dal i ystyried ymchwil ehangach yn y maes," meddai llefarydd.

Mae'r llywodraeth yn cydweithio gyda'r Adran Drafnidiaeth sydd wedi comisiynu prosiect ymchwil i edrych ar fuddion lleihau'r terfynau cyflymder.

Mae disgwyl i'r ymchwiliad hwnnw orffen yn hwyrach yn y flwyddyn.