Bro360: Lansio cynllun gwefannau lleol

  • Cyhoeddwyd
cylchgronnau Golwg

Datblygu rhwydwaith o wefannau bro yw nod cynllun peilot fydd yn cael ei lansio yn y Senedd ddydd Mercher.

Fel rhan o'u dathliadau pen-blwydd yn 30 oed, mae cwmni Golwg wedi sicrhau cefnogaeth ar gyfer prosiect i arbrofi gyda ffyrdd o greu gwefannau Cymraeg mewn dwy ardal yn y gogledd a'r gorllewin.

Gobaith y cwmni yw creu patrwm all gael ei ddilyn yn ddiweddarach ar draws y wlad.

Bydd y cynllun - Bro360 - yn cael ei lansio yn y Senedd ym Mae Caerdydd gyda digwyddiadau eraill i ddilyn yn y ddwy ardal dan sylw: cylch Aberystwyth a gogledd Ceredigion, ac ardal Caernarfon, Bangor a'r dyffrynnoedd llechi.

Swyddi newydd

Fe fydd ychydig dros £250,000 y flwyddyn ar gael er mwyn:

  • Datblygu ac adeiladu gwefan newydd;

  • Adeiladu'r rhwydweithiau a chynnal y gweithgarwch dros bedair blynedd;

  • Pwyso a mesur pa ddulliau sy'n gweithio orau;

  • Datblygu cynlluniau ar gyfer lledu'r syniad ar draws Cymru gyfan;

  • Datblygu cynllun busnes ar gyfer parhad y rhwydwaith yn y tymor hir.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Dylan Iorwerth am "greu chwyldro arall"

Dywedodd golygydd gyfarwyddwr cwmni Golwg, Dylan Iorwerth: "Mi greodd y papurau bro chwyldro o ran y Gymraeg yn y ganrif ddiwetha'; mae'n bryd creu chwyldro arall yn y ganrif newydd, efo'r cyfryngau newydd.

"Y nod ydi creu llwyfannau ar gyfer gweithgarwch yr ardaloedd yma, trwy bopeth o Instagram, Twitter a Facebook i ffeiliau fideo a sain a straeon a lluniau newyddion - creu lle ar y we i gymunedau Cymraeg."

Fe fydd pump o swyddi newydd yn cael eu creu yn rhan o'r prosiect pedair blynedd sydd wedi cael nawdd trwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru: Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020.