Cyhuddo dyn o lofruddiaeth wedi tân gwesty Aberystwyth

  • Cyhoeddwyd
tan aberystwythFfynhonnell y llun, Keith Morris

Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cyhuddo dyn o lofruddiaeth yn dilyn tân mewn gwesty yn Aberystwyth.

Bydd Damion Anthony Harris, 31 o Lanbadarn, yn wynebu cyhuddiad o lofruddio Juozas Tunaitis wedi'r digwyddiad yn Nhŷ Belgrave yn oriau mân y bore ar 25 Gorffennaf.

Mae Mr Harris hefyd wedi'i gyhuddo o achosi niwed corfforol difrifol gyda bwriad i westai arall yn y gwesty.

Bydd yn ymddangos yn Llys Ynadon Aberystwyth ddydd Iau.

Dywedodd yr heddlu fod Mr Tunaitis wedi bod yn gweithio fel swyddog gofal tân ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Mewn datganiad, fe wnaeth Neil Jenkins, Ditectif Uwch-arolygydd dros-dro Heddlu Dyfed-Powys, ddiolch i'r gymuned leol am eu hamynedd yn ystod yr ymchwiliad.

Bydd cwest yn agor i farwolaeth Mr Tunaitis ddydd Iau.

Mae teulu Mr Tunaitis wedi diolch i'r gwasanaethau brys am eu hymateb i'r digwyddiad ac eu cyfraniad i'r ymchwiliad.