Bws Caerdydd: Cwyn am sylwadau homoffobig gan reolwyr
- Cyhoeddwyd
Mae un o yrwyr Bws Caerdydd wedi ymddiswyddo wedi iddo glywed recordiad o reolwyr y cwmni yn gwneud sylwadau "homoffobig a sarhaus" amdano ac am staff eraill.
Dywedodd Matthew Enos ei fod bellach yn awyddus i hawlio ei fod wedi ei ddiswyddo yn ymarferol gan gwmni Bws Caerdydd.
Derbyniodd Mr Enos, sy'n wreiddiol o Borth yn y Rhondda, recordiad cafodd ei wneud gan yrrwr arall, oedd yn cynnwys swyddogion yn gwneud sylwadau "dirmygus ac annerbyniol" am ei rywioldeb ef a'i gydweithwyr.
Cadarnhaodd Bws Caerdydd eu bod yn ymchwilio i'r mater yn fewnol, a bydd y cwmni'n "gweithredu yn ôl yr angen" wedi'r ymchwiliad.
Dywedodd y cwmni eu bod wedi ymrwymo i ddarparu cyfleoedd cyfartal a'u bod "yn llwyr wrthwynebu unrhyw fath o ragfarn".
Fodd bynnag, dywedodd Mr Enos - a fu'n gweithio i'r cwmni ers 2010 - ei fod wedi ymddiswyddo am ei fod wedi synnu a siomi ynglŷn â sut mae'r achos yn cael ei drin.
Ofni dychwelyd i'r gwaith
Nid yw Mr Enos wedi dychwelyd i'w waith ers clywed y recordiad chwe wythnos yn ôl. Dywedodd ei fod yn pryderu am orfod cyd-weithio gyda'r rheolwyr dan sylw: "Dydw i ddim yn gallu dychwelyd, a dwi'n teimlo nad yw'r cwmni wedi anrhydeddu eu polisi dim goddefgarwch i ymddygiad homoffobaidd," meddai.
Yn ôl Unite, undeb Mr Enos, roedd y recordiad hanner awr yn cynnwys cyfeiriadau at "drama queens" ac yn cynnwys y sylw "Dydyn ni ddim yn cael llawer o lwc gyda'r gymuned hoyw heddiw" wrth siarad am aelodau o staff.
Cafodd y sgwrs ei recordio'n ddamweiniol ar ffôn gyrrwr arall, wedi iddo alw'r cwmni ar 16 Awst.
Ymdriniaeth siomedig
Cafodd achos cwyn gyflogaeth ei drefnu ar gyfer dydd Gwener 28 Medi, ond ymddiswyddodd Mr Enos ar y diwrnod hwnnw am ei fod yn pryderu byddai'r cwmni'n cynnig cymodi fel ffordd o ddelio gyda'r mater.
Mae Mr Enos bellach yn gwrando ar gyngor Unite am hawlio diswyddiad ymarferol.
Dywedodd Mr Enos bod agwedd y cwmni at gamweddau bychain fel rhedeg yn gynnar neu fethu stopio ger arhosfan bysiau yn "fwy difrifol" na'u hymateb i'r sylwadau sarhaus a homoffobaidd tuag at staff.
Dywedodd llefarydd ar ran Bws Caerdydd: "Mae ymchwiliad mewnol yn cael ei gynnal i'r achos ar hyn o bryd ac felly nid ydym yn gallu cynnig unrhyw sylw pellach ar yr unigolion dan sylw, nac ar unrhyw weithredoedd tan fod yr ymchwiliad wedi dod i ben.
"Hoffwn bwysleisio bod Bws Caerdydd wedi ymrwymo i fod yn gyflogydd hawliau cyfartal, ac yn llwyr wrthwynebu unrhyw fath o ragfarn."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Hydref 2018
- Cyhoeddwyd2 Medi 2015