Y Bencampwriaeth: Abertawe 2-3 Ipswich
- Cyhoeddwyd
Cafodd Abertawe ergyd i'w gobeithion o ennill dyrchafiad yn ôl i'r Uwch Gynghrair wrth iddyn nhw gael eu trechu gan Ipswich yn Stadiwm Liberty.
Aeth yr Elyrch ar y blaen o fewn 10 munud, gyda Janoi Donacien yn rhoi'r bêl i'w rwyd ei hun yn dilyn croesiad Connor Roberts.
Llwyddodd Ipswich i ymateb gyda dwy gôl o fewn pedwar munud ar ôl hanner awr o chwarae - gyda'r Cymro Gwion Edwards a Freddie Sears yn sgorio.
Daeth y tîm cartref yn ôl yn gyfartal gyda 10 munud yn weddill, gyda Bersant Celina yn sgorio ei gôl gyntaf i'r Elyrch.
Ond fe wnaeth yr ymwelwyr sicrhau'r fuddugoliaeth bum munud yn ddiweddarach wrth i Trevoh Chalobah benio i gefn y rhwyd o gic gornel.