Y gŵr o Gatalonia sy'n cefnogi Cymru yn erbyn Sbaen
- Cyhoeddwyd
Mae Cymru'n chwarae pêl-droed yn erbyn Sbaen yng Nghaerdydd nos Iau, 11 Hydref, ac i un gŵr sydd yn byw ym Mangor, bydd hi'n sefyllfa gymhleth.
Mae Ruben Chapela yn byw yng ngogledd orllewin Cymru ers 10 mlynedd, ond mae'n wreiddiol o Lloret de Mar, tref 50 milltir i'r gogledd o Barcelona. Mae'n gwbl rhugl yn y Gymraeg ac yn ei defnyddio'n ddyddiol.
Mae'n genedlaetholwr Catalanaidd sy'n credu y dylai bod gan bobl Catalonia'r hawl i bleidleisio i benderfynu eu tynged eu hunain - i barhau fel rhan o Sbaen neu i sefydlu gwladwriaeth annibynnol.
Cynhaliwyd refferendwm answyddogol ar annibyniaeth i Gatalonia y llynedd, gyda 92.01% o'r pleidleisiau yn ffafrio torri'n rhydd o'r wladwriaeth Sbaenaidd.
Ond oherwydd fod y Llywodraeth ganolog ym Madrid ddim wedi rhoi sêl bendith i gynnal y refferendwm, cafodd y canlyniad ei anwybyddu ac fe gafodd nifer o wleidyddion mwyaf blaenllaw Catalonia eu carcharu.
"Mae 'na lawer iawn o bobl adref yng Nghatalonia sydd eisiau refferendwm arall, un swyddogol y tro yma," meddai Ruben.
"Ers y refferendwm y llynedd mae gan Sbaen lywodraeth newydd efo Prif Weinidog newydd, Pedro Sánchez. Mae'r llywodraeth sosialaidd yma yn un lleiafrifol, sy'n golygu ei fod yn dibynnu ar gymorth gan bleidiau gwleidyddol asgell chwith o Gatalonia, Gwlad y Basg ac ardaloedd eraill.
"Felly, maen nhw ychydig hapusach i siarad nag oedd Llywodraeth Mariano Rajoy (y cyn-Brif Weinidog ceidwadol), ond maen nhw dal yn gryf dros undod Sbaen a ddim eisiau cynnig refferendwm.
"Roedd 1 Hydref yn nodi blwyddyn ers y refferendwm, ac mae arlywydd Catalonia wedi rhoi ultimatum newydd i Lywodraeth Sbaen. Maen nhw wedi dweud y byddan nhw'n stopio cefnogi y Prif Weinidog ym Madrid fis Tachwedd os na fydd cynlluniau am refferendwm cyfreithlon yn dod i'r wyneb."
Mae Llywodraeth Sbaen yn dweud ei fod yn erbyn cyfansoddiad y wlad i gynnal refferendwm i rannu'r wladwriaeth. Ond dywed Ruben fod yna gynseiliau wedi bod yn y gorffennol.
"Maen nhw wedi newid y cyfansoddiad yn y gorffennol a olygai fod merched yn gallu dod yn Frenhines, felly dydi gwneud newidiadau ddim yn amhosib," meddai.
Ymosod ar bleidleiswyr
Aeth Ruben yn ôl i Gatalonia y llynedd yn arbennig i bleidleisio. Roedd yr heddlu yn dweud ei fod yn anghyfreithlon i bleidleisio ac fe gafodd bocsys gyda phleidleisiau eu cymryd gan yr awdurdodau.
Roedd llawer yn Catalonia yn cymharu'r driniaeth o ddinasyddion Catalanaidd i'r hyn a oedd yn digwydd yn ystod cyfnod yr unben ffasgaidd, Francisco Franco:
"Roeddwn i'n teimlo fel crïo sawl gwaith, gan weld hen bobl yn gadael yr orsaf bleidleisio yn eu dagrau, am eu bod yn gallu pleidleisio."
"Dydw i erioed wedi byw mewn unbennaeth, felly falle roeddwn i'n cymryd pethau'n ganiataol, a'r ffaith mod i'n rhydd i bleidleisio yn y gorffennol. Roedd o'n broses emosiynol iawn."
Cefnogi annibyniaeth
"Dwi'n cefnogi annibyniaeth gan mod i'n meddwl fysa fo'n gweithio'n dda i Gatalonia, ac hefyd i Sbaen. Dwi'n hoff iawn o Sbaen ac mae gen i deulu yno. Mae fy nhad yn dod o Cádiz yn ne Sbaen a dwi wrth fy modd yn mynd yno," meddai Ruben.
"Ond dydi'r sefyllfa bresennol ddim yn gweithio i Gatalonia, yn enwedig wrth ystyried y system addysgu a chyllido. A dyma pam mae twf wedi bod yn nifer y gwleidyddion sy'n cefnogi annibyniaeth - fel arfer mae gwleidyddiaeth yn cael ei symud gan arian.
"Mae'r rhan fwyaf o bobl yng Ngatalonia yn poeni am yr iaith a'r diwylliant, ac mae Sbaen wedi ymosod ar ein diwylliant sawl gwaith, ac eisiau newid system addysgu, o un cyfrwng iaith Catalan, i system ddwyieithog."
Mae yna rhai ymgyrchwyr sydd am weld 'gwledydd Catalonia' (Els Països Catalans) yn cael annibyniaeth.
Golygai hyn nid yn unig rhanbarth Catalonia rydym ni'n ei 'nabod heddiw, ond ardal Valencia, yr Ynysoedd Balearig a rhannau bach o dde orllewin Ffrainc - arfordir dwyreiniol Sbaen. Ydy Ruben yn rhagweld hyn yn digwydd yn y blynyddoedd nesaf?
"Mae'n anodd gwneud hyn ar gyfer pawb, felly fysa ni'n gallu dechrau efo Catalonia ac mi fysa yna domino effect gyda Gwlad y Basg a Valencia wedyn yn mynd."
Mae rhuban melyn wedi cael ei ddefnyddio fel symbol o gefnogaeth i'r gwleidyddion o Gatalonia a gafodd eu carcharu wedi'r refferendwm y llynedd.
Pŵer chwaraeon
"Mae yna gyswllt pwysig rhwng chwaraeon, yn enwedig pêl-droed, a chenedligrwydd. Ers i wladwriaeth Sbaen ymosod ar ddinasyddion Catalonia mae 'na bobl fydde'n cefnogi unrhyw wlad ond Sbaen. Yn fy achos i, dwi yma ers 10 mlynedd a Cymru yw'r tîm fydda' i'n ei gefnogi pan fydda nhw'n chwarae yng Nghaerdydd.
"Dwi'n gwybod bod gen i lawer o ffrindiau yn Catalonia fydd hefyd ddim yn cefnogi La Roja (tim pêl-droed Sbaen), ac yn cefnogi unrhywun yn erbyn Sbaen. Falle ei fod yn bosib cymharu hyn gyda rhai pobl yng Nghymru a'r Alban."
Mae gan Gymru a'r Alban dimau cenedlaethol wrth gwrs, sy'n cael eu cydnabod gan gyrff FIFA ac UEFA. Mae gan Gatalonia dim pêl-droed hefyd, sydd ond yn chwarae yn achlysurol mewn gemau cyfeillgar.
Roedd gêm ddiwethaf Catalonia yn erbyn Tiwnisia ar 28 Rhagfyr, 2016.
"Mae ganddon ni Barcelona wrth gwrs, ac hefyd Girona ac Espanyol sy'n chwarae yn La Liga, prif adran Sbaen. Efallai un dydd chwaraewyr o'r timau yma fydd yn ein tîm cenedlaethol swyddogol."
Bale yn chwarae i Real Madrid
Beth mae Ruben yn ei feddwl o'r ffaith bod un o Gymry enwocaf y byd yn chwarae dros Real Madrid, prif elyn y Catalanwyr?
"Dwi'n cefnogi tîm Cymru, felly dwi'n cefnogi Bale, a phan mae o'n chwarae dros Real dwi'n ei gefnogi o fel Cymro. Ond wrth gwrs bydde well gen i os fysa fo'n chwarae dros Barcelona!"
A'r gobaith ar gyfer eleni?
"Barcelona yn ennill Cynghrair y Pencampwyr, Girona yn ennill La Liga a Chymru'n curo Sbaen," meddai Ruben.