Am dro i'r hydref
- Cyhoeddwyd

Lle yw eich eich hoff le chi i fynd am dro yn yr hydref?
Mae'r newid yn lliwiau dail y coed a'r ias yn yr aer yn arwydd ei bod hi'n hydref - y tymor perffaith i fynd allan am dro i fwynhau'r awyr iach a'r golygfeydd hardd cyn i'r gaeaf gyrraedd.
Mae tystiolaeth fod mynd allan i gerdded yn help i'r meddwl yn ogystal â'r corff ac mae elusen Mind yn dweud fod bod allan ynghanol byd natur yn dda i'n hiechyd meddwl.
A does dim prinder llefydd godidog i fynd am dro yng Nghymru.
Mae gennym ni lwybrau'r arfordir, llwybrau mynyddig, parciau a gwarchodfeydd di-ri sy'n cynnig tro addas i bawb.

Golygfa hydrefol ger Beddgelert sy'n lle poblogaidd i fynd i gerdded neu fynd am dro hamddenol
Yn ôl cylchgrawn Country Living, dolen allanol, Nant Gwynant yng Ngwynedd ac Ynys Dinas a Sir Benfro yw'r llefydd gorau yng Nghymru i fynd am dro yn yr hydref.

Fferm Llyndy Isaf ar lan Llyn Dinas yn Nant Gwynant
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru, sy'n rheoli nifer o warchodfeydd natur, wedi dewis eu deg hoff daith, dolen allanol sy'n cynnwys Llwybr Elidir ym Mhont Melin-fach ger Ystradfellte, Parc Coed y Brenin ger Dolgellau a gwlyptir enfawr Cors Caron ger Tregaron.

Golygfa hydrefol o Gors Caron
"Mae'r hydref yn dymor gwych i fynd am dro i leoedd a oedd yn brysurach yn ystod misoedd yr haf - cyfle i fwynhau traethau a oedd gynt dan eu sang a llwybrau cerdded poblogaidd trwy goedwigoedd mewn tawelwch braf," meddai Mary Galliers, Swyddog Marchnata Hamdden a Thwristiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru.
"Ond nid mwynhad yn unig a gewch wrth fynd am dro yn yr hydref - mae pobl egnïol sy'n mwynhau'r awyr agored yn fwy tebygol o fyw bywydau hirach, iachach a hapusach."
Ond beth yw eich hoff dro hydrefol chi?
Beth am ein helpu i rannu'r llefydd gwych sydd ganddon ni yng Nghymru i glirio'r pen a mynd am dro yr adeg yma o'r flwyddyn drwy anfon llun o'ch hoff dro hydrefol at cymrufyw@bbc.co.uk?
Hefyd o ddiddordeb: