Hen ysbyty meddwl Dinbych ym mherchnogaeth y cyngor sir
- Cyhoeddwyd
Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi dod yn berchen yn swyddogol ar yr hen ysbyty seiciatryddol yn Ninbych, wedi blynyddoedd o geisio cael y maen i'r wal.
Roedd y cyngor wedi cyflwyno dogfen gyfreithiol yn rhoi cyfnod penodol i'r perchennog blaenorol, cwmni Freemont, herio trosglwyddo rhydd-daliad hen Ysbyty Gogledd Cymru.
Ond gan na ddaeth her gyfreithiol o fewn 28 diwrnod gan y cwmni, mae'r cyngor wedi perchnogi'r safle ar gyrion y dref sy'n segur ers blynyddoedd.
Dywed arweinydd y cyngor, Hugh Evans bod y cam yn un "hanesyddol" ac yn dilyn "blynyddoedd o waith caled, penderfyniad ac ymrwymiad i ddiogelu'r adeilad rhestredig hanesyddol hwn".
Mae'r cyngor eisoes wedi datgan mai cwmni o Ruthun, Jones Bros Civil Engineering UK yw'r datblygwr dewisol i fod yn gyfrifol am y safle mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Cadwraeth Gogledd Cymru.
Dywed datganiad y cyngor bod y cwmni "hanes cryf, profedig ar gyfer prosiectau mawr ledled y DU" gan ychwanegu eu bod "yn cynnig ailddatblygu yn bennaf ar gyfer tai ar y safle".
'Proses hir'
Roedd Freemont wedi prynu'r safle yn 2003 ac fe gafodd ganiatâd cynllunio yn 2006 ar gyfer cynllun ailddatblygu, ond daeth y caniatâd hwnnw i ben heb i unrhyw waith gael ei wneud.
Roedd y cwmni, sydd wedi'i leoli yn Ynysoedd y Wyryf y DU, wedi gwrthwynebu gorchymyn prynu gorfodol yn y gorffennol.
Yn y cyfamser, roedd pryder bod yr adeilad yn dirywio'n raddol. Cafodd prif neuadd a tho'r ysbyty eu difrodi'n sylweddol gan dân yn 2009.
Dywedodd Mr Evans: "Mae'r cyngor wedi gweithio'n ddiwyd o'r diwrnod cyntaf, gan fuddsoddi ei gronfeydd ei hun i wneud gwaith cynnal a chadw hanfodol.
"Mae'r broses wedi bod yn hir ac mae'r cyngor wedi wynebu heriau gan y perchnogion ym mhob cam o'r ffordd. Mae hyn wedi bod yn rhyfedd ac rydym wedi bod yn rhwystredig iawn nad oedd y mater hwn wedi'i gwblhau yn gynharach.
"Fodd bynnag, rydym wedi dyfalbarhau, gyda'r ymrwymiad i amddiffyn y safle rhag dirywiad pellach.
Ychwanegodd: "Rydym yn cydnabod pwysigrwydd y safle yn llawn i bobl leol ac rydym am sicrhau bod datblygiad y safle yn cynnig dyfodol cynaliadwy i'r adeiladau rhestredig pwysicaf, fydd o fantais i'r economi a'r gymuned leol o ran swyddi a thai.
Bydd y safle'n parhau ym mherchnogaeth y cyngor nes y bydd yna benderfyniad ar gais cynllunio gan Jones Bros. Dyw manylion amserlen y cais cynllunio heb eu cadarnhau eto.
Mae yna apêl i'r cyhoedd gadw draw o'r safle am resymau iechyd a diogelwch.
Mae'r cwmni bellach wedi cymryd camau diogelwch yno gan gynnwys gosod camerâu teledu cylch cyfyng, ac mae ffensys yn cael eu codi o amgylch y safle.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Tachwedd 2016