Gwrthdrawiad angheuol yn costio £1.7m i Lywodraeth Cymru

  • Cyhoeddwyd
Y ddamwain yn Storey Arms yn 2012
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw dyn wedi'r gwrthdrawiad yn Storey Arms yn 2012

Fe dalodd Llywodraeth Cymru £1.7m mewn iawndal a chostau ar ôl cydnabod ei bod yn rhannol gyfrifol am wrthdrawiad angheuol yn ystod tywydd rhewllyd.

Roedd yn wynebu camau cyfreithiol ar ran ystâd teulu dyn a fu farw a theithiwr a gafodd anaf difrifol yn y ddamwain ar yr A470.

Bu car a lori mewn gwrthdrawiad ger Storey Arms ym Mhowys ym mis Chwefror 2012.

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod camau cyfreithiol wedi cymryd gan eraill yn erbyn yswirwyr y gyrrwr a fu farw, ac yn erbyn gweinidogion sydd â'r cyfrifoldeb yn y pen draw am yr A470.

Pan ofynnwyd pam roedd Llywodraeth Cymru wedi derbyn cyfrifoldeb, dywedodd llefarydd y bydden nhw, fel yr awdurdod priffyrdd, "wedi gallu ystyried cau'r ffordd neu osod arwyddion dros dro".

Ychwanegodd bod y taliad yn dilyn cyfarfod yn 2016 lle ddaeth pawb oedd ynghlwm â'r achos i gytundeb.

Bu'n rhaid torri dau berson yn rhydd o'u cerbyd a'u trin yn safle'r gwrthdrawiad gan y gwasanaeth ambiwlans.

Roedd yr achos yn un "ddifrifol a thrasig", yn ôl Shan Morgan - ysgrifennydd parhaol Llywodraeth Cymru ac arweinydd y Gwasanaeth Sifil yng Nghymru - yn ystod cyfarfod o'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ddydd Llun.

Dywedodd: "Fe wnaeth Llywodraeth Cymru gyfaddef peth o'r cyfrifoldeb a gwneud cyfraniad o 30% at gyfanswm y colledion a gafodd eu hawlio oherwydd roedd yr achos yn ymwneud ag amodau'r ffordd a chyfrifoldeb."