Cronfa i annog mwy o bobl i gael gofal yn y cartref
- Cyhoeddwyd
Mae Rita Davies yn gofalu am ei gŵr Mel yn eu cartref ers 10 mlynedd ar ôl iddo gael strôc ddifrifol.
Mae hyn yn bosib gan ei bod hi'n un o'r bobl sy'n derbyn cymorth ar y cyd gan y gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.
Tair gwaith y dydd mi ddaw gofalwyr i mewn i'w chynorthwyo hi ac mae Mel, sy'n 80 oed ac sydd â diabetes, yn cael cymorth gan nyrsys arbenigol.
Gobaith a gweledigaeth Llywodraeth Cymru, drwy sefydlu'r Gronfa Trawsnewid, yw bod mwy o hyn yn digwydd gan leihau rhywfaint o straen ar y gwasanaeth iechyd.
Mae Rita'n llwyddo i ofalu am Mel yn eu cartref ym Mhen-y-bont ar Ogwr gan ei bod wedi cael yr offer priodol i'w helpu, yn ogystal â chymorth y gofalwyr.
"Mae gwely o'r ysbyty gyda ni, mae matras aer, a hoist a sling, mae popeth o'dd yr occupational therapist wedi dodi yn ei le yn gweithio'n dda," meddai.
"Ni'n gallu cadw Mel adre wedyn yn lle bod e'n gorfod mynd mewn i ryw gartref preswyl."
Mae'r ddau newydd ddathlu eu priodas aur ac mae Rita'n dweud bod pethau'n gallu bod yn anodd weithiau ond gyda'r holl gefnogaeth mae'n cael gan y gwasanaethau a'r gymuned, mae'n ymdopi.
Problem i'r ardaloedd gwledig?
Cafodd y Gronfa Trawsnewid, sy'n werth £100m, ei chreu fel rhan o gynllun hirdymor Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol ac mae'r prosiect cyntaf i dderbyn arian o'r gronfa wedi ei gyhoeddi.
Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol Caerdydd a'r Fro sy'n gyfrifol am ddatblygu Fi, Fy Nghartref, Fy Nghymuned ac mae'n integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol er mwyn cynnig gofal yn nes at y cartref.
Bydd yn derbyn bron i £7m dros ddwy flynedd er mwyn newid, datblygu a chysoni gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, gan roi mwy o bwyslais ar atal salwch, a symud gwasanaethau allan o ysbytai i dai a chymunedau.
Mae'r prosiect newydd yn seiliedig ar fodel gafodd ei ddatblygu yn Seland Newydd ac mae saith elfen iddo sy'n cynnwys caniatáu i weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rannu gwybodaeth am gleifion yn ogystal â chyflwyno mwy o brosiectau cymunedol fel 'caffis siarad'.
Mae Miriam Leigh yn ddarlithydd Gwaith Cymdeithasol ym Mhrifysgol Abertawe ac yn aelod o'r Coleg Cymraeg.
Er ei bod yn croesawu bwriad ac egwyddor y gronfa, mae'n rhagweld rhai anawsterau, gan gynnwys y cyfnod o amser bydd y prosiectau newydd yn cael eu hariannu.
"Mae'n anodd iawn i werthuso rhywbeth [a] sefydlu prosiect dros ddwy flynedd a beth ma' nhw'n gofyn yw bod yr arian yn cael ei ddosbarthu bob chwarter, felly ma' hwnna'n mynd i fod yn anodd hefyd i brosiectau, i'r rheolwyr hynny," meddai.
"Falle dyw e ddim yn gymaint o broblem i'r awdurdodau lleol mwyaf ond mi fydd e'n broblem i'r prosiectau bychain, mwya' lleol a falle gwledig hefyd."
'Dibynnu llai ar ysbytai'
Ychwanegodd ei bod hi'n bwysig i'r llywodraeth gydnabod "beth yw cyd-destun a diwylliant Cymreig a Chymraeg yr ardaloedd hynny" wrth werthuso'r prosiectau.
Ond mae'r Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething, yn mynnu bod rhaid cyflwyno newidiadau yn sgil pwysau cynyddol ar y gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.
"Dyna pam, yn ein cynllun hirdymor ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, ein bod ni wedi nodi'r angen i drawsnewid y ffordd rydyn ni'n darparu gofal i sicrhau ei fod yn gynaliadwy yn y dyfodol," meddai.
"Bydd gofyn am integreiddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn well er mwyn dibynnu llai ar ysbytai a darparu gofal yn nes at y cartref."