'Straen o hyd' ar y gwasanaeth iechyd er i'r pwysau leihau

  • Cyhoeddwyd
ysbyty

Mae'r Gweinidog Iechyd wedi dweud wrth ACau bod y pwysau ar wasanaethau rheng flaen GIG Cymru wedi lleihau'r wythnos hon, ond eu bod yn dal dan straen aruthrol.

Rhybuddiodd Vaughan Gething bod disgwyl rhagor o "ddiwrnodau anodd" oherwydd heriau tymor y gaeaf.

Dywedodd Mr Gething bod y gwasanaeth wedi gorfod delio â galw "heb ei debyg" ar adegau yn yr wythnosau diwethaf.

Ddydd Mercher dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru fod nifer yr ymgynghoriadau ynghylch ffliw wedi mwy na dyblu yn ystod wythnos gyntaf 2018 o'i gymharu ag wythnos olaf 2017.

Roedd cynnydd o 54% hefyd yn nifer y galwadau brys mwyaf difrifol i'r gwasanaeth ambiwlans Nos Galan, a chynnydd o 29% yn nifer y galwadau 'coch' ddydd Calan.

'Rhywbeth o'i le yn rywle'

Ar y diwrnodau mwyaf prysur bu'n rhaid i feddygon teulu a gwasanaethau gofal cynradd eraill ar draws Cymru ddelio â 100,000 o gleifion.

Dywedodd Mr Gething bod lefel y pwysau "ddim yn rhai y gallwch chi o fewn rheswm gynllunio ar eu cyfer".

Roedd Mr Gething yn ymateb i gwestiwn gan lefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, Angela Burns.

Honnodd hithau bod staff GIG wedi dweud "nad ydyn nhw erioed wedi gweld y GIG mewn cyflwr cyn waethed".

Gofynnodd i Mr Gething gynnal "asesiad brys" o'r modd y mae byrddau iechyd yn defnyddio £50m gafodd eu rhoi iddyn nhw yn yr hydref er mwyn mynd i'r afael â phwysau'r gaeaf.

"Aeth rhywbeth o'i le yn rywle," meddai Ms Burns.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Vaughan Gething bod y gwasanaeth wedi gorfod delio â galw "heb ei debyg" yn yr wythnosau diwethaf

Ychwanegodd y dylai'r Ysgrifennydd Iechyd sicrhau bod rheolwyr yn atebol, a gwneud yn siŵr bod £10m ychwanegol ar gyfer lliniaru pwysau tymor y gaeaf yn cyrraedd gwasanaethau rheng flaen.

Dywedodd llefarydd iechyd Plaid Cymru, Rhun Ap Iorwerth bod y GIG yn llai abl i ddelio â chyfnodau o alw mawr oherwydd gostyngiad yn nifer gwlâu ysbyty dros gyfnod o flynyddoedd.

Dysgu gwersi'n 'gyson'

Dywedodd y dylai Llywodraeth Lafur Cymru "gyfaddef i'w rhan yn achosi'r problemau" ar ôl bod yn gyfrifol am iechyd yng Nghymru ers 19 mlynedd.

Fe wnaeth Mr Gething wrthod galwad i gynnal ymchwiliad ar unwaith i berfformiad y GIG y gaeaf yma gan ddweud bod gwersi'n cael eu dysgu'n gyson ac y bydd y paratoadau ar gyfer y gaeaf nesaf yn well eto.

Dywedodd hefyd bod y GIG mewn sefyllfa well nag yn Lloegr, lle mae llawdriniaethau oedd wedi eu trefnu wedi gorfod cael eu gohirio.

Bydd ystadegau swyddogol sy'n rhoi awgrym o effaith pwysau'r gaeaf ar berfformiad y GIG yn ystod mis Rhagfyr yn cael eu cyhoeddi ar 18 Ionawr.