Y Bencampwriaeth: Aston Villa 1-0 Abertawe
- Cyhoeddwyd
Mae Abertawe wedi colli tair gêm o'r bron ar ôl colli oddi cartref yn erbyn Aston Villa.
Gôl gan un o gyn-ymosodwyr yr Elyrch wnaeth sicrhau buddugoliaeth i'r tîm cartref yn eu gêm gyntaf dan ofal y rheolwr newydd, Dean Smith.
Tammy Abraham, sydd ar fenthyg o Chelsea, sgoriodd unig gôl y gêm wedi wyth munud ar ôl penio o groesiad Ahmed El Mohamady.
Fe allai fod wedi gallu sgorio mwy, gan gynnwys trwy ergyd yn yr ail hanner gafodd ei harbed gan golwr Abertawe, Kristoffer Nordfeldt.
Roedd Nordfelt hefyd wedi gwneud yn dda i atal Albert Adomah rhag sgorio yn yr hanner cyntaf.
Cafodd yr Elyrch gyfleoedd yn yr ail hanner - ergyd gan Bersant Celina a oedd ond ychydig yr ochr anghywir i'r postyn, a pheniad gan Jay Fulton y bu'n rhaid ei harbed gan golwr Aston Villa, Orjan Nyland.
Ond gyda chapten Cymru, James Chester yn ôl yn yr amddiffyn wedi gwaharddiad, fe lwyddodd y tîm cartref i gadw llechen lân am yr eildro ers dechrau'r tymor.