Tad prif hyfforddwr Cymru, Warren Gatland wedi marw

  • Cyhoeddwyd
Warren GatlandFfynhonnell y llun, Ben Evans/Huw Evans Agency
Disgrifiad o’r llun,

Mae Warren Gatland, sydd o Seland Newydd yn wreiddiol, wedi bod yn brif hyfforddwr ar Gymru ers 2007

Mae Undeb Rygbi Cymru wedi cadarnhau fod Warren Gatland wedi dychwelyd i Seland Newydd yn dilyn marwolaeth ei dad.

Mewn datganiad ddydd Mawrth fe ddywedodd URC eu bod yn cydymdeimlo â phrif hyfforddwr Cymru yn dilyn y "newyddion trist".

Yr wythnos diwethaf fe gyhoeddodd Gatland ei garfan ar gyfer gemau'r tîm yng nghyfres yr hydref eleni.

Bydd Cymru yn wynebu'r Alban, Awstralia, Tonga a De Affrica, gyda'r ornest gyntaf yn erbyn yr Albanwyr ar 3 Tachwedd yn Stadiwm Principality.

Wnaeth Undeb Rygbi Cymru ddim cadarnhau a fydd Gatland, 55, yn dychwelyd mewn pryd i fod yn gyfrifol am y tîm ar gyfer yr ornest agoriadol honno.