A-Y: Gweithgareddau Hanner Tymor

  • Cyhoeddwyd

Mae hi'n hanner tymor unwaith yn rhagor, ond beth i'w wneud â'r plant?

Dyma ychydig o ysbrydoliaeth i chi, o A-Y*, sydd ddim am gostio gormod o arian.

(*Roedd rhaid bod yn greadigol gydag ambell i lythyren...)

Ffynhonnell y llun, damircudic

Amgueddfa

Mae saith safle Amgueddfa Cymru yn rhad ac am ddim, neu beth am ymweld ag un o'r amgueddfeydd lleol.

Beicio

Ewch i grwydro ar ein lonydd beicio a dod i 'nabod yr ardal yn well.

Casglu concers

Mae'n coedwigoedd yn llawn concers ar hyn o bryd... wedyn gallwch eu paratoi a chwarae gyda nhw. (Gwyliwch y cythraul concers.)

Ffynhonnell y llun, blackjake

Chwarae cuddio

O amgylch y tŷ neu yn yr ardd (os nad yw hi'n rhy fwdlyd o dan draed!)

Dro

Amser gwych i fynd am dro hydrefol a chicio'r dail crin ar y llawr, cyn dychwelyd adref i...

Ddarllen

Beth am ddewis llyfr i drio'i gwblhau cyn diwedd y gwyliau?

Eisteddfod

Pawb i ymarfer eu canu/chwarae piano/dawnsio/llefaru a chynnal eisteddfod bach yn y tŷ.

Fideos

Ar ddiwrnod glawog, gallwch wylio fideos doniol ar y we.

Ffilmio

Eisiau serennu yn eich ffilm neu fideo cerddoriaeth eich hun? Mae hi'n ddigon hawdd gyda ffôn y dyddiau yma.

Golchi'r car

Bydd Mam a Dad wrth eu bodd!

Ffynhonnell y llun, Hybrid Images

Ng

Os oes unrhyw un yn gallu meddwl am weithgaredd addas sy'n dechrau gyda Ng, cysylltwch...!

Helfa drysor

Cuddio cliwiau o amgylch y tŷ, a'r cyntaf i ddod o hyd i bopeth sy'n ennill.

Iaith

Beth am ddysgu ambell i air o Sbaeneg, Ffrangeg neu hyd yn oed Arabeg neu Rwsieg?

Jig-sô

Y gweithgaredd perffaith i gadw plentyn yn ddiddig am ychydig.

Labordy

Yn mwynhau gwyddoniaeth? Byddai labordy cartref yn wych - ond dim pethau rhy ffrwydrol!

Llyfrgell

Mae mwy na llyfrau yn unig mewn llyfrgell - gallwch hefyd fenthyg gemau, cerddoriaeth a ffilmiau, neu beth am aros am sesiwn stori?

Mabolgampau

Ras gyfnewid, taflu pêl, neidio... Gallwch wahodd ffrindiau a chreu timoedd.

Ffynhonnell y llun, Kikovic

Nofio

Sblash! - gweithgaredd gwych arall i'w wneud os yw hi'n glawio; cysgodwch rhag y glaw, drwy wlychu yn y pwll!

Origami

Pa mor dda ydych chi am wneud siapiau o bapur? Amser ymarfer efallai?

Parc

Mae'r parc yn lle gwych i chwarae a cherdded a chofiwch fynd â...

Phicnic

blasus gyda chi!

Ffynhonnell y llun, vadimguzhva

Raced

... tenis, badminton neu sboncen - tynnwch y llwch oddi ar eich hen racedi ac ewch am gêm.

Rhoi i elusen

Casglwch eich hen degannau a dillad o amgylch y tŷ a mynd â nhw i siop elusen.

Sbwriel

Ewch i gerdded ar y traeth neu lwybr cyhoeddus lleol i gasglu sbwriel a'i roi yn y bin. Gallwch gael dipyn o ymarfer corff a helpu i achub yr amgylchedd yr un pryd!

Trên

Eisiau antur? Ewch ar y trên i rywle am y diwrnod!

Ffynhonnell y llun, ArtMarie

Thema

Dewiswch thema ar gyfer y dydd (y gofod, Peppa Pinc, Canada...), a dysgwch gymaint ag y gallwch chi amdano.

Urdd

Heb ymuno eto? Dyma'ch cyfle, er mwyn sicrhau eich bod yn gallu cystadlu yn yr Eisteddfod neu yn Gemau Cymru y flwyddyn nesa'.

Paentio Wyneb

Beth ydych chi eisiau bod heddiw - Gwrach? Teigr? Spiderman? Mae'r posibiliadau'n ddiddiwedd.

Ffynhonnell y llun, Erin823

Ysgrifennu llythyr

Mae'n siŵr fyddai Anti Olwen neu Tad-cu Caerfyrddin wrth eu boddau yn derbyn llythyr wedi ei ysgrifennu mewn llawysgrifen dwt!

Dolenni defnyddiol