Peiriannydd yn cyflwyno cawr o gynllun i groesi'r Fenai
- Cyhoeddwyd
Mae chwedl o'r Mabinogi wedi ysbrydoli peiriannydd sifil i lunio cynllun i gael ei ystyried ar gyfer y drydedd bont newydd dros y Fenai.
Mae cynllun Benji Poulton eisoes wedi ei ddyfarnu yn fuddugol mewn cystadleuaeth Pitch 200 ar gyfer peirianwyr sifil o Gymru.
Dywedodd Mr Poulton mai chwedl Matholwch wnaeth ei ysbrydoli.
"A fo ben bid bont" - dyna yn ôl y chwedl, a ddywedodd y cawr Bendigeidfran cyn gorwedd ar draws afon Llinon yn Iwerddon a gadael i filwyr Ynys y Cedyrn gerdded trosto i ymladd milwyr y brenin Matholwch.
Nawr mae Mr Poulton wedi cyflwyno deiseb i Bwyllgor Deisebau'r Cynulliad yn gofyn iddyn nhw ystyried ei gynllun o gael cerflun o'r cawr Bendigeidfran yn cynnal y bont newydd.
Cynnydd mewn traffig dros y blynyddoedd diwethaf sydd wedi gorfodi'r Llywodraeth i ystyried codi pont arall dros y Fenai.
Ddechau'r mis fe gyhoeddodd Lywodraeth Cymru eu bod nhw o blaid llwybr porffor, fyddai'n golygu pont newydd i'r dwyrain o Bont Britannia.
Y penderfyniad nesaf fydd dewis cynllun.
Mae Mr Poulton hefyd wedi creu fideo o'i gynllun ar y gwefannau cymdeithasol ac mae'n dweud ei fod wedi cael ymateb da.
"Dwi'n meddwl fod gan y cynllun ddigon o benefits ychwanegol a'i fod o'n werth ei wneud," meddai.
"Yr oll dwi wedi wneud yn y ddeiseb ydi gofyn iddyn nhw ystyried o yn erbyn yr opsiynau eraill, so gawn ni weld."
Dywedodd fod angen cynllun eiconig a fyddai'n ychwanegu at ddelweddau mawreddog y ddwy bont bresennol, sef pontydd Telford a Stephenson.
"O'n i'n meddwl 'sa'n dda cael Bendigeidfran yn dal y bont i fyny, 'sa'n dda cael y twristiaid i mewn, 'sa'n bont newydd byd-enwog i ddenu pobl yma i'w gweld ac i ddod i nabod straeon y Mabinogion."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Gwnaethom gyhoeddi'n ddiweddar mai'r llwybr porffor oedd yr opsiwn a ffafrir ar gyfer y drydedd bont dros y Fenai.
"O ystyried natur a sensitifrwydd y Fenai bydd gwaith dadansoddi pellach yn cael ei gynnal yn awr er mwyn datblygu math addas o strwythur sy'n gweddu orau i'r tirlun presennol.
"Caiff yr holl gynigion eu hystyried yn ystod y cam nesaf hwn."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Hydref 2018
- Cyhoeddwyd5 Hydref 2017