Lluniau anweddus: Dedfryd ohiriedig i Simon Thomas

  • Cyhoeddwyd
Simon Thomas llys
Disgrifiad o’r llun,

Simon Thomas yn cyrraedd Llys Ynadon Aberystwyth mewn gwrandawiad cynharach

Mae cyn-wleidydd Plaid Cymru, Simon Thomas, wedi cael dedfryd o 26 wythnos o garchar wedi'i ohirio am ddwy flynedd am feddu ar ddelweddau anweddus o blant.

Roedd Thomas, 54 ac oedd yn Aelod Cynulliad ac Aelod Seneddol, wedi pledio'n euog i dri chyhuddiad o greu delweddau anweddus o blant.

Mewn gwrandawiad yn Llys Ynadon Yr Wyddgrug, dywedodd y barnwr rhanbarth Gwyn Jones wrth Thomas ei fod wedi colli ei "enw da".

Roedd rhai o'r delweddau gafodd eu lawrlwytho yn dangos plant yn cymryd rhan mewn gweithgareddau rhywiol.

Clywodd y llys ddydd Mercher bod y delweddau gafodd eu canfod yn cynnwys 150 delwedd o'r math mwyaf difrifol - categori A - ynghyd â 103 delwedd categori B a 363 categori C.

Cafodd y delweddau eu darganfod ar ddyfeisiau yn dilyn cyrch ar gartref Thomas yn Aberystwyth ar fore 23 Gorffennaf.

Ymysg y dyfeisiau oedd iPad, iPhone a dyfeisiau cof USB. Roedd hanes chwilio ar-lein y diffynnydd hefyd yn dangos defnydd o "wefan Rwsiaidd ar gyfer rhannu delweddau", sy'n adnabyddus am ei chysylltiad â delweddau anweddus.

Dywedodd cyfreithiwr Thomas wrth y llys fod yr achos wedi "achosi loes mawr i deulu'r amddiffynydd", sy'n briod â dau blentyn sy'n oedolion.

Ychwanegodd fod Thomas wedi "cydweithredu'n llawn" efo'r ymchwiliad a'i fod wedi dangos "parodrwydd i ofyn am gymorth" tuag at "broblemau sydd wedi'u gwreiddio'n ddwfn".

Roedd cyfnod Thomas ym mywyd cyhoeddus, meddai, yn "unig" ar brydiau, ac fe syrthiodd y diffynnydd i "drap oedd yn anodd i ddianc ohono".