Simon Thomas AC yn ymddiswyddo ar ôl cael ei arestio
- Cyhoeddwyd
Mae AC Plaid Cymru, Simon Thomas wedi ymddiswyddo o'r Cynulliad ar ôl cael ei arestio gan heddlu sy'n ymchwilio i honiadau'n ymwneud â delweddau anweddus.
Cafodd Mr Thomas, sy'n briod a gyda dau o blant, ei ethol yn AC dros ranbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru yn 2011.
Mae bellach wedi dileu ei dudalen Twitter a'i wefan bersonol, a hefyd wedi gadael y blaid.
Mewn datganiad dywedodd Heddlu Dyfed Powys: "Mae unigolyn o Aberystwyth wedi ei arestio ar amheuaeth o fod â meddiant o ddelweddau anweddus. Mae wedi ei ryddhau ar fechnïaeth am 28 diwrnod."
Llythyr ymddiswyddiad
Yn gynharach dywedodd Llywydd y Cynulliad, Elin Jones: "Mae'r Llywydd wedi derbyn llythyr ymddiswyddiad gan Simon Thomas, Aelod Cynulliad dros ranbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru, a fydd yn dod i rym ar unwaith.
"Mae Swyddog Canlyniadau'r rhanbarth wedi'i hysbysu, ac rydym yn gweithio gyda'n gilydd i weinyddu'r trefniadau ar gyfer ethol cynrychiolydd etholedig newydd."
Ychwanegodd Cadeirydd Plaid Cymru, Alun Ffred Jones: "Mae Plaid Cymru wedi derbyn ymddiswyddiad Simon Thomas fel aelod o'r blaid.
"Rydym yn ymwybodol o ymchwiliad heddlu i honiadau o natur ddifrifol. Oherwydd yr ymchwiliad hwnnw sy'n parhau, ni fyddai'n briodol gwneud sylw pellach ar hyn o bryd."
Collodd Mr Thomas, 54, sy'n byw yn Aberystwyth, ei sedd fel Aelod Seneddol yn San Steffan yn 2005.
Bu'n ymgynghorydd arbennig i Ieuan Wyn Jones pan oedd yn ddirprwy brif weinidog, cyn cael ei ethol i'r Cynulliad ei hun yn 2011.
Cyhoeddodd y byddai'n ymgeisio am arweinyddiaeth y blaid y flwyddyn ganlynol yn dilyn ymadawiad Ieuan Wyn Jones, cyn datgan ei gefnogaeth i Elin Jones.
Dim isetholiad
Gan ei fod wedi ei ethol fel AC rhanbarthol, ni fydd isetholiad i ddewis ei olynydd.
Yn hytrach byddai cyn-AC Plaid Cymru Helen Mary Jones, sef y nesaf ar restr y blaid yn y rhanbarth, fydd yn cael cynnig i gymryd ei le.
Mewn ymateb i'r newyddion dywedodd Helen Mary Jones ei bod mewn "sioc", a bod ganddi "benderfyniadau mawr i'w gwneud yn y dyddiau nesaf".