Cau canolfan fwyd yn 'golled fawr' i Ddyffryn Conwy

  • Cyhoeddwyd
Canolfan Fwyd Cymru, Bodnant
Disgrifiad o’r llun,

Fe agorodd Canolfan Fwyd Cymru ym Modnant, Dyffryn Conwy yn 2012

Mae 'na rybudd y byddai cau Canolfan Fwyd Cymru, Bodnant, yn "golled fawr" i amaeth yn Sir Conwy.

Cyhoeddodd perchnogion y busnes yn gynharach yn yr wythnos eu bod yn ceisio'i werthu, gan fod y fenter yn "anghynaladwy".

Yn ôl un ffermwr sy'n cyflenwi'r ganolfan, mae'n "ffenest siop" sy'n rhoi "hyder" i gynhyrchwyr lleol.

Dywedodd Gwyndaf Thomas, sy'n ffermio moch traddodiadol a phrin ger Llanelian, eu bod wedi arwyddo cytundeb i werthu eu cig yn y ganolfan yn unig.

Mae'n dweud bod llefydd fel y ganolfan yn rhoi "sefydlogrwydd" sydd "werth lot".

Disgrifiad o’r llun,

Mae Gwyndaf Thomas yn un o'r amaethwyr sy'n cyflenwi'r ganolfan ym Modnant

"Mae'n ffenest siop, fel 'tae, i'r cynnyrch," meddai.

"Mae pawb yn gwybod lle mae'n dod o, mae'r traceability yn ffantastig drwyddyn nhw, ac maen nhw wedi gwthio'r bridiau traddodiadol yn anhygoel o dda."

Dywedodd y byddai'n rhaid iddo "chwilio am farchnad arall, sydd ddim mor hawdd y dyddiau yma", pe bai'r ganolfan yn cau.

Mae cwmni allanol wedi cael eu penodi gyda chyfrifoldeb dros werthu'r safle, a agorodd yn wreiddiol yn 2012.

Mae'n cyflogi tua 50 o staff, a bydd yn aros ar agor am fis tra bod yr ymdrech i ddod o hyd i brynwr yn parhau.