Caniatâd i godi 15 o dai yn Chwilog, Dwyfor

  • Cyhoeddwyd
Madryn Arms, ChwilogFfynhonnell y llun, Geograph
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r safle dan sylw wedi ei leoli tu cefn i res o dai presennol a thŷ tafarn y Madryn Arms yn Chwilog

Mae cais i godi 15 o dai newydd yn ardal Dwyfor wedi derbyn sêl bendith.

Yn 2015, cafodd caniatâd cychwynnol ei roi i'r datblygiad ger tafarn y Madryn Arms yn Chwilog.

Mae'r datblygiad yn cynnwys:

  • Un byngalo dwy ystafell wely;

  • 11 tŷ teras a thai pâr (semi-detached) gyda thair ystafell wely;

  • Tri thŷ gyda phedair ystafell wely.

Bydd pedwar o'r 15 adeilad yn cael eu gwerthu fel tai fforddiadwy.

Fe dderbyniodd y cais ganiatâd llawn gan bwyllgor cynllunio Cyngor Gwynedd ddydd Llun.

Dywedodd adroddiad y pwyllgor, dolen allanol bod y cais wedi'i dderbyn am fod y cynlluniau gwreiddiol wedi cael eu haddasu i gynnwys "nodweddion lleol".