Llifogydd yn effeithio ardaloedd yn Sir Benfro

  • Cyhoeddwyd
Llifogydd

Mae nifer o ffyrdd ar hyd Sir Benfro dan ddŵr o ganlyniad i law trwm gyda disgwyl mwy i gwympo ddydd Gwener.

Mae Pont Fadlen, Hwlffordd a Solfach gyda rhybuddion llifogydd mewn grym, sy'n golygu fod disgwyl llifogydd yno.

Mae 10 rhybudd pellach am lifogydd ar hyd Cymru, sy'n golygu fod llifogydd yn bosibl.

Mae Cyngor Sir Benfro wedi dweud fod "nifer o ffyrdd" dan ddŵr ac yn cael eu trin "ar frys."

'Amodau anodd'

Ychwanegodd y Cyngor fod criwiau yn ceisio cyrraedd ffyrdd sydd dan ddŵr, ond bod amodau yn ei gwneud hi'n anodd iawn.

Mae afon Teifi isaf, afon Taf ac afon Cynin gyda rhybudd am lifogydd ar hyd arfordir Penfro a Sir Gar ac mae rhybudd hefyd yn ardal Crofty.

Mae'r swyddfa dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn ar gyfer gwynt a glaw dros Gymru ddydd Gwener.

Mae'r rhybudd yn dechrau am 13:00 tan hanner nos.