Glaw trwm yn effeithio ar dai a theithwyr gorllewin Cymru

  • Cyhoeddwyd
tai aberdaugleddau
Disgrifiad o’r llun,

Mae pum tŷ yn Aberdaugleddau ymhlith y rheiny sydd dan ddŵr

Bu dros 1,000 o dai heb bŵer nos Wener wrth i'r tywydd garw effeithio ar orllewin Cymru.

Roedd nifer o ffyrdd yng ngorllewin Cymru hefyd wedi cau yn sgil llifogydd, a nifer o goed wedi syrthio yn rhwystro teithwyr.

Roedd y rheilffordd rhwng Hwlffordd ac Aberdaugleddau hefyd wedi ei rhwystro gan y llifogydd, gyda gwasanaeth tacsi yn gweithredu yn ei le.

Yn ôl Western Power Distribution roedd tai heb bŵer oherwydd nam foltedd uchel, ac mae tua 400 o dai heb drydan bellach.

Rhybuddion mewn grym

Mae pedwar o rybuddion llifogydd eisoes mewn grym yn ardaloedd Solfach a Hwlffordd, ac mae'r cyngor yn dweud bod nifer o ffyrdd hefyd dan ddŵr.

Fe wnaeth y Swyddfa Dywydd gyhoeddi rhybudd oren am law trwm dros Sir Benfro ddydd Gwener, a rhybudd melyn am wyntoedd cryfion a glaw dros rannau eraill o'r de.

Mae'r rhybudd melyn gwreiddiol mewn grym rhwng 13:00 a 23:59, ac mae'r rhybudd oren yn weithredol o 13:00-23:00.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Afon Cleddau ger neuadd sir Hwlffordd eisoes wedi codi'n aruthrol yn ystod y dydd

Cadarnhaodd Heddlu Dyfed-Powys bod llifogydd difrifol ar yr A40 rhwng Abergwaun a Scleddau a bod yr A487 drwy Niwgwl hefyd ar gau.

Ychwanegodd y llu fod coeden yn rhwystro'r traffig ar yr A470 ger Libanus.

Mae coed wedi syrthio yn effeithio ar deithwyr yr A44 rhwng Capel Bangor a Ponterwyd a ger Pont Cryfnau ar yr A4069 rhwng Llangadog a'r Mynydd Du.

Mae'r A4242 Ffordd y Cwrwgl yng Nghaerfyrddin hefyd wedi cau yn sgil llifogydd.

Mae llifogydd hefyd wedi effeithio ar yr A484 ger Cenarth a'r B4310 rhwng yr A48 a Phorthyrhyd.

Am y wybodaeth ddiweddaraf am rybuddion tywydd, llifogydd a theithio yn eich ardal chi, ewch i'r gwefannau yma:

Dywedodd Cyngor Sir Penfro y dylai tai a busnesau yng nghanol Hwlffordd ddisgwyl rhagor o lifogydd, wrth i lefel Afon Cleddau "godi'n sylweddol".

Mae llyfrgelloedd a busnesau yn Aberdaugleddau a Phenfro hefyd wedi cau, ac mae rhai pobl wedi gorfod cael eu hachub o'u tai.

Yn ôl y Swyddfa Dywydd, Parc Gwledig Scolton yn Hwlffordd oedd y lle gwlypaf yn y DU ddydd Iau, gyda 45.6mm (1.8 modfedd) o law yn disgyn.

Ond dywedodd Heddlu Dyfed-Powys: "Mae pawb yn saff a does dim bygythiad i fywyd ar hyn o bryd."

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y llyfrgell yn Aberdaugleddau ei hamgylchynu gan ddŵr

Rhybuddiodd y Swyddfa Dywydd y gallai dŵr sy'n llifo fod yn risg i fywyd, ac y gallai tai a busnesau hefyd golli cyflenwad trydan.

Maen nhw hefyd yn rhagweld y gall y tywydd achosi trafferthion amrywiol i deithwyr.

Mae oedi hefyd ar drafnidiaeth gyhoeddus - trenau, awyrennau a llongau fferi - gyda rhai gwasanaethau methu rhedeg fel yr arfer.

Mae'r rhybudd melyn yn weithredol dros y siroedd canlynol:

  • Blaenau Gwent;

  • Pen-y-bont ar Ogwr;

  • Caerffili;

  • Caerdydd;

  • Sir Gaerfyrddin;

  • Merthyr Tudful;

  • Sir Fynwy;

  • Castell-nedd Port Talbot;

  • Casnewydd;

  • Powys;

  • Rhondda Cynon Taf;

  • Abertawe;

  • Torfaen;

  • Bro Morgannwg.