Cyngor yn gwneud tro pedol ar ginio Nadolig i blant ysgol

  • Cyhoeddwyd
cinio nadoligFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Cyngor Powys wedi gwneud tro pedol ar ôl i filoedd o bobl arwyddo deiseb yn beirniadu eu penderfyniad i beidio â chynnig cinio Nadolig traddodiadol i ddisgyblion ysgol y sir.

Fe wnaeth rhieni fynegi eu siom wedi iddi ddod i'r amlwg fod yr awdurdod lleol yn bwriadu cynnig amrywiaeth o frechdanau a phitsas yn hytrach na'r pryd traddodiadol.

Roedd rhai hefyd yn cwyno nad oedd y dewis amgen yn ddewis iach.

Ond nos Lun fe benderfynodd Cyngor Powys i beidio â bwrw 'mlaen â'r fwydlen ddadleuol.

Bydd yr ysgolion nawr yn gofyn i rieni dalu £3 am y cinio Nadolig - sy'n fwy na'r £2.30 arferol am ginio ysgol.

'Ddim yn iachus'

Roedd y fwydlen amgen gafodd ei chynnig gan y cyngor yn cynnwys amrywiaeth o frechdanau, pitsa margherita, nygets cyw iâr a rhai llysieuol, neu ffyn moron a chiwcymbr.

I bwdin, roedd y plant am gael cynnig jeli blas mefus gyda bisged neu ffrwythau.

Ond mynnodd rhieni ei bod hi'n bwysig bod cinio rhost yn cael ei gynnig i blant o ran yr elfen gymdeithasol, ac nad oedd picnic yn cynnig yr un peth.

Fe wnaeth rhai hefyd gwyno nad ydy'r dewis amgen yn un iachus iawn.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Aled Griffiths - llywodraethwr a thad i dri o blant - bod y fwydlen wedi dangos "diffyg synnwyr cyffredin"

Dywedodd Aled Griffiths, llywodraethwr a thad i dri o blant sy'n mynychu Ysgol Uwchradd Bro Hyddgen ac Ysgol Gynradd Glantwymyn bod y fwydlen amgen wedi dangos "diffyg synnwyr cyffredin".

"Mae'n rhyfeddol bod Powys ddim wedi rhagweld ymateb rhieni i'r newidiadau yma," meddai.

"Mae Powys yn dadlau bod y cinio llawn yn ddrud, ond mae'r plant eisoes yn cael cinio rhost pob dydd Iau beth bynnag. Byddai ychwanegu rhywfaint at y pryd yma yn cynyddu'r gost rai ceiniogau'n unig."

Ychwanegodd y Cynghorydd Elwyn Vaughan, arweinydd grŵp Plaid Cymru ar Gyngor Powys, bod y fwydlen yn "ymddangos yn grintachlyd" a'i fod yn "taro rhywun nad ydynt wedi ystyried y mater yn iawn".

Roedd AC Maldwyn, Russell George, hefyd wedi cwestiynu "a fyddai gwario ychydig mwy ar ddarparu cinio ysgol Nadolig traddodiadol yn mynd i dorri'r banc".

'Unig ginio Nadolig rhai'

Dros y penwythnos, cafodd deiseb yn gwrthwynebu'r fwydlen newydd ei chreu ar-lein, gyda bron i 6,000 o bobl wedi ei harwyddo.

Joy Jones wnaeth greu'r ddeiseb, ac mae hi'n dweud bod tlodi yn broblem fawr ym Mhowys.

I rai plant, meddai, dyma fydd yr unig ginio Nadolig.

Dywedodd bod rhai rhieni yn wynebu problemau ariannol difrifol, ac na fydd pob teulu yn gallu fforddio'r cinio Nadolig traddodiadol eleni.

"Dwi'n falch eu bod nhw wedi gweld synnwyr," meddai Ms Jones wrth ymateb i dro pedol y cyngor.

Mewn ymateb dywedodd y Cynghorydd Phyl Davies, aelod cabinet Cyngor Powys dros Wasanaethau Arlwyo Ysgolion, fod pob adran wedi gorfod wynebu toriadau.

"Mae'r ymateb cyhoeddus dros y dyddiau diwethaf wedi dangos y gefnogaeth sydd ar gyfer cinio Nadolig traddodiadol," meddai.

"Byddwn yn darparu cinio Nadolig ar gyfer plant ysgolion cynradd gyda chost ychwanegol o 70c gan wneud cost y pryd yn £3."