Galw i roi cinio ysgol i'r holl blant sy'n byw mewn tlodi
- Cyhoeddwyd
Dylai pob plentyn sy'n byw mewn tlodi yng Nghymru dderbyn cinio ysgol am ddim, yn ôl melin drafod.
Mae Sefydliad Bevan yn dweud bod cyflwyno credyd cynhwysol wedi newid pwy sy'n gymwys i dderbyn cinio, a bod 55,000 o blant sy'n byw mewn tlodi yn mynd heb bryd am ddim.
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod eu bwriad i newid system cinio am ddim i blant o deuluoedd gyda chyflog o lai na £7,400 yn golygu y bydd 3,000 yn fwy o blant yn derbyn cinio.
Mae'r sefydliad yn diffinio tlodi fel teulu sy'n ennill 60% yn llai na'r incwm canolrifol.
Trafod newid y system
Ar hyn o bryd, mae tua 76,000 o blant, sef 16% o ddisgyblion, yn gymwys am ginio am ddim.
Maen nhw ar hyn o bryd yn ei dderbyn os yw eu rhieni yn gymwys am fudd-daliadau arbennig, ond nid yw hyn yn cynnwys credyd treth gwaith.
Fodd bynnag, bydd credyd cynhwysol yn tynnu'r holl fudd-daliadau yn un, gan gynnwys credyd treth gwaith, ac o dan y rheolau presennol byddai mwy fyth o blant - bron i 50% - yn gallu cael cinio am ddim.
Mae'r llywodraeth ar hyn o bryd yn trafod cynllun i gyfyngu cynnig cinio am ddim ar gyfer teuluoedd sy'n ennill hyd at £7,400 ac yn gymwys i dderbyn credyd cynhwysol.
Maen nhw'n dweud fod yn rhaid gosod trothwy, rhag creu "costau anfforddiadwy".
Dywedodd Dr Steffan Evans o Sefydliad Bevan eu bod yn galw ar y llywodraeth i gynnwys pob teulu sy'n derbyn credyd cynhwysol.
"Os ydy'r wladwriaeth yn credu bod teulu angen help gyda chredyd cynhwysol, wedyn dylai plentyn dderbyn cinio am ddim. Byddai hynny'n sicrhau na fyddai'r un plentyn yn llwgu," meddai.
"Mae'n ddigon hysbys bod bwyta diet cytbwys ac iach yn llesol i iechyd ac i addysg plentyn.
"Byddai cynyddu nifer y plant sy'n derbyn pryd bwyd am ddim yn yr ysgol yn help i leihau anghyfartaledd iechyd nawr ac yn ddiweddarach yn eu bywydau.
"Dyma gyfle unwaith-mewn-degawd i newid y rheolau."
Argymell tri dewis
Mae ymgynghoriad Sefydliad Bevan yn argymell tri dewis:
cinio ysgol am ddim i bawb, neu o leiaf i blant hyd at Flwyddyn 2, fel sy'n digwydd yn Lloegr a'r Alban;
peidio â chyflwyno trothwy incwm, er mwyn i bob teulu sy'n derbyn credyd cynhwysol i allu cael cinio am ddim;
cynnig trothwy incwm perthnasol i amgylchiadau teuluoedd unigol, er mwyn cynnig trothwy is i deuluoedd mwy o faint.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn nodi cyfraniad Sefydliad Bevan i'r ymgynghoriad a bellach yn ystyried pob ymateb cyn gwneud cyhoeddiad am sut rydym am fynd yn ein blaen o'r fan hon."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd19 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd15 Gorffennaf 2017