Rhieni'n ciwio am oriau i gael lle mewn clwb brecwast
- Cyhoeddwyd
![Rheini](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/0EF7/production/_102613830_brecwast2.jpg)
Mae Cyngor Caerdydd wedi dweud ei bod yn "anffodus" nad oedd modd sicrhau lle i bawb wnaeth geisio cael lle mewn clwb brecwast yn un o ysgolion cyfrwng Cymraeg y brifddinas.
Bore Iau bu dwsinau o rieni'n ciwio y tu allan i Ysgol y Berllan Deg yn ardal Llanedern yn gobeithio am le yn y clwb brecwast ar gyfer mis Medi.
Dywedodd un rhiant, Leanne Taylor, ei bod hi wedi bod yn aros y tu allan i'r ysgol ers 03:30.
"Dyma'r ail flwyddyn i mi wneud hyn... tasen ni ddim yn cael lle yn y clwb brecwast yma byddai'n amhosib i mi aros yn fy swydd," meddai.
'Galw mawr'
Mae'r clwb yn gallu darparu ar gyfer 100 o blant cynradd, gyda'r llefydd yn cael eu rhoi gan amlaf ar yr egwyddor y cyntaf i'r felin.
Erbyn hyn, mae'r olygfa o rieni'n ciwio wedi dod yn un cyfarwydd ar ddiwedd tymor yr haf.
Cafodd cynllun brecwast yn rhad ac am ddim Llywodraeth Cymru ei lansio yn 2004, gyda'r nod o roi brecwast yn yr ysgol bob bore.
![Leanne Taylor](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/6307/production/_102615352_bc4.jpg)
Dywedodd Leanne Taylor ei bod wedi bod yn y ciw ers 03:30 y bore
Y bwriad yw gwella gallu plant i ganolbwyntio a "bod o gymorth wrth godi safonau".
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd: "Mae yna alw mawr am lefydd yng nghynllun brecwast Ysgol y Berllan Deg.
"Mae llefydd ychwanegol wedi cael eu neilltuo bob blwyddyn ac rydym yn cynnal arolwg cyson o'r gwasanaeth.
"Ond yn anffodus oherwydd cyfyngiadau ar staff a gofod, mae wedi bod yn amhosib i'r ysgol ddarparu le ar gyfer pawb sy'n gwneud cais."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Tachwedd 2015
- Cyhoeddwyd29 Medi 2015