Pum mlynedd arall nes 'cynnydd go iawn mewn gwariant'
- Cyhoeddwyd
Ni fydd gwariant ar wasanaethau cyhoeddus yn dychwelyd i'r un lefel ag yr oeddent cyn y toriadau nes 2023, yn ôl dadansoddiad o gyllideb Llywodraeth Cymru.
Mae disgwyl i'r gyllideb parhau i dyfu, diolch yn bennaf i wariant ychwanegol ar iechyd gan Lywodraeth y DU.
Ond gallai nifer o adrannau Llywodraeth Cymru weld toriadau pellach os ydy rhagor o arian yn cael ei glustnodi ar gyfer y gwasanaeth iechyd.
Dywedodd ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd y byddai gweinidogion Cymru yn wynebu rhangor o benderfyniadau anodd os ydynt yn ceisio cynyddu gwariant ar yr un raddfa a Lloegr.
Mewn termau real - sef ar ôl ystyried chwyddiant - mae'r gyfran o gyllideb Cymru ar gyfer gwariant dydd-i-ddydd ar wasanaethau yn is nag yr oedd yn 2010.
Dywedodd Guto Ifan o Ganolfan Llywodraethiant Cymru: "Mewn termau cul, fe allwn ni ddweud bydd gwariant o ddydd i ddydd Llywodraeth Cymru yn cynyddu dros y pum mlynedd nesaf.
"Ond wrth roi'r cynnydd hwnnw mewn persbectif lefelau real, ni fydd y gyllideb yn cyrraedd lefelau 2010 cyn 2023.
"Mae hynny'n 13 mlynedd o ddim twf mewn gwariant."
Gan fod y boblogaeth wedi tyfu yn ystod y cyfnod hwnnw, mae'n golygu bod gwariant fesul person dal i fod yn is, meddai.
Mae'r dadansoddiad yn defnyddio rhagolygon gwario gan Drysorlys y DU. Mae disgwyl i'r Canghellor Philip Hammond gyhoeddi adolygiad gwariant llawn y flwyddyn nesaf.
Tra bod Llywodraeth y DU wedi dweud bod y cyfnod o lymder ariannol ar ben, does dim tystiolaeth o hynny, yn ôl Ysgrifennydd Cyllid Llywodraeth Cymru, Mark Drakeford.
Mae gan Mr Drakeford bwerau i amrywio trethi a benthyg arian, ond mae Llafur wedi dweud na fyddent yn newid cyfraddau treth incwm yng Nghymru cyn etholiadau'r Cynulliad yn 2021.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Hydref 2018
- Cyhoeddwyd2 Hydref 2018
- Cyhoeddwyd1 Tachwedd 2018