AS o Gymru wedi'i fwlio'n 'ddifrifol wael' fel plentyn
- Cyhoeddwyd
Mae Aelod Seneddol o Gymru wedi dweud iddo gael ei fwlio'n ddifrifol wael am flynyddoedd pan oedd yn ei arddegau.
Dywedodd Chris Elmore ei fod wedi cael ei daro yn ei wyneb, ei gicio lawr grisiau, a'i arteithio'n feddyliol dros gyfnod o saith mlynedd.
Ni ddaeth y bwlio i'r amlwg nes iddo gael ei anafu mor wael, bu'n rhaid galw'r heddlu.
20 mlynedd yn ddiweddarach mae'n arwain grŵp seneddol sydd yn ceisio taclo bwlio drwy'r cyfryngau cymdeithasol.
'Rhywun yn eich rheoli'
"Petai gen i gyfryngau cymdeithasol pan oeddwn i'n mynd drwy beth wnes i, dwi ddim yn gwybod sut y bydden i wedi ymdopi," meddai Mr Elmore wrth Wales Live.
"Dwi ddim yn gwybod a fydden i yma nawr achos dwi ddim yn siŵr y bydden i wedi gallu ymdopi gyda'r lefel yna [o fwlio] gartref yn ogystal â phan ro'n i allan o'r tŷ.
"Dwi wedi profi popeth o sylwadau creulon i gam-drin corfforol. Mae gen i lawer o atgofion o gael fy nghicio dan y bwrdd yn y labordy gwyddoniaeth nes bod fy nghoesau'n gwaedu."
Ar un achlysur mae'n dweud fod y bwlis wedi ei orfodi i aros allan ar gae rygbi am oriau, a'i fod wedi baeddu ei hun yn y diwedd gan ei fod ofn symud nes iddyn nhw adael iddo fynd.
"Roedden nhw'n meddwl ei fod e'n ddoniol," meddai Mr Elmore, sydd yn AS dros etholaeth Ogwr.
"Roedden nhw wedi cyflawni eu bwriad achos roeddwn i'n rhy ofnus i adael y cae. Dwi'n cofio cerdded adref a cheisio golchi fy nillad fy hun fel nad oedd rhaid i mi ddangos i fy rhieni.
"Felly pethau fel 'na, allwch chi ddim jyst dweud, anghofiwch am hynny ac anghofiwch ei fod e wedi digwydd."
Ychwanegodd: "Rydych chi'n teimlo fel bod rhywun yn gallu eich rheoli chi i'r fath raddau eich bod chi ofn gwneud unrhyw beth, sy'n achosi i chi deimlo'n isel ac unig."
Cyfryngau cymdeithasol
Wedi i Mr Elmore wneud araith yn San Steffan y llynedd am ei brofiadau, cafodd wahoddiad i gadeirio grŵp trawsbleidiol ar iechyd meddwl pobl ifanc a'r cyfryngau cymdeithasol.
Mae'n dweud fod y cyfryngau cymdeithasol yn dod â phroblemau ychwanegol na fu'n rhaid iddo ef ddelio gyda nhw pan oedd yn yr ysgol.
"Mae'r byd digidol yn lefel newydd o fwlio achos 'dych chi'n gallu ei drosglwyddo i'r pethau 'dych chi'n ei ddefnyddio, a does dim dianc rhagddo," meddai.
Cafodd flas o hynny ei hun pan wnaeth un o'r unigolion oedd yn arfer ei fwlio bostio neges ar y cyfryngau cymdeithasol yn gwneud yn fach o'r hyn a ddigwyddodd yn yr ysgol.
"Fe wnaeth un ohonyn nhw wneud jôc am y peth ar fy [nhudalen] Facebook, ond cafodd ei feirniadu gan fy ffrindiau a fy etholwyr," meddai Mr Elmore.
"Os nad ydyn nhw wedi symud 'mlaen o'r peth mae hynny lan iddyn nhw. I mi, mae dod drwy hynny wedi fy ngwneud i'n berson gwell."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Medi 2018
- Cyhoeddwyd8 Chwefror 2018
- Cyhoeddwyd20 Mehefin 2018