Pobl LHDT 'yn dal i wynebu bwlio yn y gweithle'

  • Cyhoeddwyd
LHDTFfynhonnell y llun, AFP

Mae pobl LHDT (LGBT) yng Nghymru'n wynebu bwlio, gwahaniaethu a hyd yn oed trais yn y gweithle, medd Stonewall Cymru.

Mae adroddiad ar gyfer yr elusen yn dweud fod traean o bobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsryweddol wedi cuddio'u hunaniaeth oherwydd pryderon y byddan nhw'n cael eu trin yn anffafriol.

Dywed Stonewall Cymru bod pobl LHDT yn dal i gael eu trin yn wael gan gydweithwyr, rheolwyr a chwsmeriaid, er bod agwedd rhai cyflogwyr yn gwella.

Dywedodd un o bob chwech eu bod wedi wynebu sylwadau neu ymddygiad negyddol o fewn y flwyddyn ddiwethaf oherwydd eu hunaniaeth, gan gynnwys sylwadau dilornus, bwlio a chydweithwyr yn datgelu eu rhywioldeb heb eu caniatâd.

'Straen ofnadwy'

Mae'r adroddiad yn seiliedig ar brofiad 825 o bobl Lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsryweddol yng Nghymru.

Yn ei dystiolaeth, dywedodd Dewi, 36 oed, wrth ymchwilwyr: "Dwi 'di bod i ffwrdd o'r gwaith oherwydd straen yn ddiweddar oherwydd bwlio homoffobig gan fy rheolwyr.

"Tra mae fy nghydweithwyr yn wych, mae'r rheolwyr yn ofnadwy.

"Aeth cwyn i Adnoddau Dynol, a ddaeth i'r casgliad bod agweddau homoffobig yn bodoli yno'n ehangach, ac rwyf wedi gorfod wynebu rhoi'r gorau i'r swydd neu ddychwelyd.

"Byddaf yn dychwelyd wythnos nesaf, ond dwi'n teimlo dan straen ac yn isel, ac ar adegau'n teimlo fel dod a'r cyfan i ben."

Profiad Ffion

Nid yw profiad pawb o'r gweithle wedi bod yn negyddol.

Mae Ffion Erin Parry, 35 oed, yn ddarlithydd peirianneg mecanyddol yng Ngholeg Menai ym Mangor.

Tan yn ddiweddar, roedd hi'n cael ei hadnabod fel Neil, cyn iddi gyhoeddi ei bod yn y broses o newid i fod yn ferch.

Disgrifiad,

Roedd dod allan i'r gwaith "yn ryddhad mawr" medd Ffion Erin Parry

Ar raglen Y Post Cyntaf ar BBC Radio Cymru fore Mercher, dywedodd ei bod wedi cael llawer o gefnogaeth pan benderfynodd hi ddod allan: "Mae'n helpu fod pobl Gaernarfon wedi bod yn rhagorol.

"Mae'n helpu fod gwaith, y staff, y myfyrwyr 'di bod yn uffernol o gefnogol a deud y gwir, ac mae hynna 'di rhoi'r boost yn yr hyder i fynd ymlaen i helpu eraill hefyd."

Ac wrth gynghori eraill sy'n wynebu cyfyng gyngor tebyg iddi hi, mae'n dweud bod siarad â'r cyflogwr yn bwysig: "Mae gynnon ni bolisiau a deddfau sy'n amddiffyn hawl y gweithiwr yn y gweithle.

"Da ni'n byw mewn oes lle dylsai pawb fod yn agored.

"Y peth cyntaf fyswn i'n dweud yw i gysylltu gyda'r rheolwr a siarad gyda'r rheolwr cyn mynd ymlaen i ddweud wrth staff eraill."

'Brawychus'

Mae Stonewall yn galw ar gyflogwyr i ddatblygu polisi dim goddefgarwch ar bob math o wahaniaethu ac aflonyddu.

Dywedodd Iestyn Wyn, Rheolwr Ymgyrchoedd, Polisi ac Ymchwil Stonewall Cymru nad yw'r casgliadau yn ei synnu: "Beth mae'r adroddiad yma'n ein atgoffa ni yw bod gyda ni lot o waith i'w wneud.

"Mae o'n frawychus i ddarllen rhai o'r tystiolaethau sydd wedi cael ei rhoi o fewn yr adroddiad o ran dyfyniadau gan bobl yn dweud eu bod nhw'n wynebu achosion trychinebus.

"Mae'r gweithle i fod yn rhywle sy'n gynhwysol, yn rhywle saff i bobl, oherwydd, pan da ni'n meddwl am yr oriau a'r amser da ni'n dreulio o fewn y gweithle, mae'r rhan helaeth ohonon ni'n wynebu ac yn treulio lot o amser yn y gwaith, ac ar lot o achosion, yn fwy na fasen ni adref.

Disgrifiad,

Mae cymorth ar gael i bobl sy'n dioddef, medd Iestyn Wyn o Stonewall Cymru

"Fy nghyngor i i rywun sy'n delio efo achos o wahaniaethu ar sail eu hunaniaeth nhw fel person LHDT ydy i wybod bod o ddim yn iawn. a dydy o ddim yn iawn i gael eich gwahaniaethu neu eich bwlio neu eich trin yn wahanol ar sail hynny.

"Mae gan Stonewall Cymru wasanaeth gwybodaeth lle da ni'n gallu cyfeirio pobl at ffynonellau o gefnogaeth, lle da ni'n gallu dweud wrth bobl, "Dyma ydy'r ffordd y gallwch fynd ymlaen i alw hynny allan neu wneud rhywbeth am y peth.

"Mae o yn erbyn y gyfraith i gael eich gwahaniaethu ar y sail eich bod chi'n berson LHDT, a dyna fyswn i'n dweud ydy, peidiwch a meddwl am eiliad, os ydy o'n digwydd yn ddyddiol, bod hynny'n cyfiawnhau o, neu'n neud o'n iawn."