Malcolm Allen i roi'r gorau i sylwebu ar S4C 'am y tro'
- Cyhoeddwyd
Bydd y cyn-chwaraewr pêl-droed rhyngwladol, Malcolm Allen yn rhoi'r gorau i sylwebu ar S4C "am y tro", yn ôl y sianel.
Fe gadarnhaodd S4C wrth Cymru Fyw na fydd y sylwebydd yn rhan o dîm cyflwyno rhaglen Sgorio Rhyngwladol ar gyfer y gêm rhwng Cymru a Denmarc nos Wener.
Dywedodd llefarydd ar ran S4C: "Mae S4C, Sgorio a Malcolm Allen wedi cyd-gytuno y bydd Malcolm yn cymryd hoe oddi wrth ei ddyletswyddau sylwebu am y tro.
"Bydd yn dychwelyd yn y dyfodol agos."
'Camddealltwriaeth' mewn archfarchnad
Yr wythnos diwethaf, fe wnaeth Mr Allen ymateb i adroddiad o ladrata mewn archfarchnad yng Nghaernarfon, gan alw'r digwyddiad yn "gamddealltwriaeth".
Dywedodd yr heddlu eu bod wedi ymchwilio i'r mater a bod neb wedi'u harestio.
Bydd Cymru'n herio Denmarc yng Nghynghrair y Cenhedloedd nos Wener ac yna Albania mewn gêm gyfeillgar nos Fawrth, gyda'r ddwy gêm yn fyw ar S4C.
Ychwanegodd y llefarydd ar ran S4C mai tîm cyflwyno Sgorio ar gyfer y gêm nos Wener fydd Dylan Ebenezer, Owain Fôn Williams, Gwennan Harries, Nic Parry ac Owain Tudur Jones.
Doedd Mr Allen ddim am wneud sylw ar y mater.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Tachwedd 2018