Prynhawn Da, Huw Fash!
- Cyhoeddwyd
Mae rhaglen Prynhawn Da ar S4C yn 20 oed yr wythnos yma. Un sydd wedi bod yno ers y cychwyn yn rhoi tips ffasiwn i'r genedl ydy Huw 'Fash' Rees.
Mae hefyd yn wyneb cyfarwydd ar raglen Heno ond yn cofio dyddiau cynnar y sianel ddigidol pan ddechreuodd Prynhawn Da ddarlledu i ddim ond wyth bocs digidol yng Nghymru!
I nodi pen-blwydd Prynhawn Da cafodd Cymru Fyw sgwrs â Huw am ei yrfa, llosgi chips yn fyw ar yr awyr ac wrth gwrs, Sash Huw Fash!
"W ma boi diddorol yn dod o'n pentre' ni, sy'n gwneud ffasiwn yn Llunden ac yn Gymro Cymraeg."
O'n i'n gweithio fel cynllunydd i gwmni Reiss yn Llundain pan ges i alwad ffôn annisgwyl yn gofyn i mi ddod i wneud slot ffasiwn ar Heno.
O'dd e'n gyfle da i ddod adre i weld y teulu ac i siarad Cymraeg ar y dechre, ond ddath e'n rhywbeth mwy exciting. Roedd teledu yn rhywbeth hollol newydd, ffres. Mae hi'n wahanol nawr, pan ma' gymaint o sianeli 'da chi, ond bryd hynny, roedd y cyfle i fod ar y teledu yn rhywbeth mawr.
Dwi wedi cadw at y cyngor ges i yn y man cychwyn gan berson yn y byd teledu: "Mae lot o gyflwynwyr yn mynd a dod, ond mae arbenigwyr wastod yn arbenigwyr."
Wnes i wrando'n astud ar hynny, a dyna pam dwi dal yma, dwi'n credu - ti methu cymryd yr arbenigedd na'r cymwystere sydd gen ti bant.
Y dyddie yma, mae unrhyw un yn gallu bod yn 'steilydd' neu 'make-up artist' ond dwi'n dod o'r hen ysgol lle ro't ti'n astudio i gael cymwysterau fel dy fod ti'n arbenigwr mewn rhywbeth. Wedyn mae gen ti hawl i roi dy farn.
Fi sy'n dewis pob darn o ddilledyn ar gyfer y rhaglenni - dwi byth yn trafod dim byd mae rhywun arall wedi ei ddewis.
Mae pobl o bob oedran yn gwylio, ac mae'n bwysig cofio hynny pan dwi'n meddwl am ddillad. Dwi wastad yn trio dewis dillad i bob oedran, pob seis, a gwahanol brisiau. Ni'n trio dangos y cyfan, ac apelio at ystod eang o gynulleidfa.
Mae'n rhyfedd meddwl, yn wythnos gynta' Prynhawn Da, dim ond wyth bocs digidol oedd yn bodoli.
Felly dim ond wyth person, neu wyth teulu (neu fel dwi'n hoffi meddwl, wyth cymuned rownd un teledu!) oedd yn gwylio. Mae hynny'n cynnwys Mam a Dad oedd wedi prynu bocs yn arbennig i fy ngwylio i! Erbyn hyn mae wedi datblygu i fod yn un o'r rhaglenni mwya' poblogaidd ar S4C.
Dim ond Tinopolis fel cwmni oedd yn gwneud stwff digidol ar y pryd, ac wrth gwrs, digidol yw popeth erbyn hyn. Roedd e'n deimlad braidd yn od i ddod o raglen fel Heno, oedd â gymaint o gynulleidfa, a mynd at raglen oeddech chi'n gwybod oedd â chynulleidfa fach iawn - ond tyfodd y gynulleidfa honno yn fuan iawn.
Mae teledu byw yn lot mwy o sbri, ti'n fwy real.
Dwi'n cofio eitem am gystadlaethau cŵn yn rhedeg i'r afon ac yn ôl - ci ar ôl ci - a Lyn Ebenezer yn cysgu ar y soffa! Ac wedyn, yn syth yn dechre'r eitem nesa', â'r un linell bob tro - "'Sai'n deall dim am ffasiwn, ond ma 'da ni foi sydd yn..."
A ges i fy atgoffa yn ddiweddar am eitem 'nes i ar y dechre ynglŷn â chips 'di rhewi (mae'n amlwg nad oedden nhw'n gallu meddwl pwy arall 'sa'n gallu gwneud yr eitem!). Felly dyna fi yn coginio'r chips yn y stiwdio, i weld pa rai oedd yr hawsaf i goginio a pha rai oedd yn blasu orau... a losges i'r chips! Falle nad fi oedd y person gore ar gyfer yr eitemau yma - fi'n gallu coginio ond falle ddim ar sgrin!
Gan fod yr eitemau yn 20 munud o hyd, o'dd e'n dangos pwy o'dd yn gallu ei 'neud e. Roedd rhaid siarad am 20 munud non-stop, a gwybod am beth oeddech chi'n siarad - ma' hwnna'n lot o siarad.
Ond fel mae Elinor Jones wastad yn dweud "Gall Huw Fash siarad am dip am hanner awr!"
'Nath yr enw Huw Fash fachu o'r dechre. Mae pobl wir yn meddwl mai Fash yw fy nghyfenw i!
Dechreuodd Sash Huw Fash rhyw wyth mlynedd yn ôl, wythnos cyn y Royal Welsh, a roedden ni eisiau cael eitem gwisg y dydd. Gan ei fod yn sioe geffyle nes i gynnig 'sa ni'n gallu rhoi sash fel ma nhw'n ei roi i'r pencampwyr yn y prif gylch!
A mae e 'di cymryd off, ma'n hilarious! Mae Huw Stephens wedi siarad amdano fe ar Radio 1, H o Steps wedi dod i seremoni BAFTA yn chwilio am un... Mae 'na un boi sy'n steilydd â'r cwmni dillad Joules gafodd un yn y Sioe Fawr un flwyddyn, a ma' fe'n dod â fe mas bob blwyddyn ac yn crwydro'r maes yn ei wisgo fe!
Roedden ni'n griw bach iawn ar y dechre, a ddaethon ni'n agos iawn - ni'n cael lot o sbri hyd heddi.
Mae'r tîm yn dod 'mlaen yn dda iawn, ac mae hynny'n dod drosto - pawb; y cyflwynwyr a'r tîm cynhyrchu.
Nes i ddechre ar Heno 26 o flynydde yn ôl a fi byth 'di gadel. Through thick and thin (neu through fat and thin, fel 'wy'n ei weud) - fi dal 'ma!
Hefyd o ddiddordeb...