Pan ddaeth 120 o blant Prague i fyw yn nhref leiaf Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae hen westy Llyn Abernant wedi ei leoli ar gyrion tref leiaf Prydain - Llanwrtyd, yn ne Powys.
Cafodd ei godi ar dir fferm gwastad i roi llety i'r ymwelwyr a gafodd eu denu i'r dref gan ddŵr iachaol y ffynnon.
Erbyn hyn, mae'r adeilad yn eiddo i gwmni preifat sy'n rhedeg canolfannau antur i bobl ifanc - mae'r erwau o gaeau, y coed yn y gerddi a'r llyn yn berffaith at y pwrpas hwn.
Mae lleisiau plant ysgol yn herio'i gilydd - yn Gymraeg a Saesneg - ar gwrs antur neu mewn gweithgaredd ar y llyn i'w clywed yno'r gyson.
Roedd y gwesty'n fwrlwm o fywyd plant 75 mlynedd yn ôl hefyd, yng nghanol yr Ail Ryfel Byd.
Ond yr adeg honno, Tsieceg oedd iaith y chwarae.
Rhwng 1943-45 cafodd Gwesty Llyn Abernant ei droi'n ysgol breswyl ar gyfer plant oedd wedi ffoi o Prague cyn dechrau'r rhyfel wrth i'r Natsïaid feddiannu Tsiecoslofacia.
Roedd y mwyafrif yn dod o deuluoedd Iddewig a cawson nhw eu hanfon i ffwrdd gan eu rhieni - ar eu pennau eu hunain - i Brydain er mwyn dianc rhag erchyllterau'r Natsïaid.
Daethon nhw i Brydain gyda help un dyn yn bennaf - Nicholas Winton, bancwr o Lundain gafodd ei ddisgrifio fel "Schindler Prydain" - cyfeiriad at Oscar Schindler, yr Almaenwr wnaeth achub tua 1,200 o Iddewon yn ystod y rhyfel.
Trwy ymdrechion Nicholas Winton fe lwyddodd 669 o blant Iddewig i adael Prague yn y misoedd cyn i'r rhyfel ddechrau.
Fe drefnodd e bapurau ar eu cyfer fel bod modd iddyn nhw deithio'n ddiogel ar draws Ewrop, a sicrhau llety ar eu cyfer gyda theuluoedd ym Mhrydain.
Roedden nhw'n rhan o'r 'kindertransport' - yr ymdrech i symud miloedd o blant Iddewig o ganol Ewrop ac i ddiogelwch cyn dechrau'r rhyfel.
Yn 1943 daeth tua 120 o'r plant o Prague i Westy Llyn Abernant lle'r oedd ysgol breswyl wedi'i sefydlu ar eu cyfer.
"Mae'n stori sy'n agos iawn at ein calonnau ni yma yn Llanwrtyd," meddai cyn-faer y dref Peter James, sydd hefyd yn hanesydd lleol.
Yn ôl Mr James bu'n rhaid i deuluoedd y plant dalu £50 am bob plentyn yr oedden nhw am eu hanfon i ffwrdd.
Ac i'r mwyafrif o'r plant - ar ôl ffarwelio â'u rhieni yn yr orsaf drenau - fyddan nhw byth yn eu gweld eto.
Roedd y plant yn yr ysgol breswyl yn Llanwrtyd fel un teulu mawr, yn ôl Mr James.
"Byddan nhw'n edrych ar ôl ei gilydd yn helpu gyda jobsys gwahanol - y merched yn gwnïo, y bechgyn yn gwneud y llestri, ac ar ôl naw o'r gloch y nos roedd y plant hŷn yn cael gwrando ar y radio er mwyn ceisio deall sut oedd y rhyfel yn mynd 'nôl yng nghanol Ewrop," meddai.
"Roedd llawer o bobl leol yn gweithio yn Abernant a daethon nhw'n agos at y plant.
"Roedd perchennog y siop bapur newydd yn arfer mynd â nhw i chwarae pêl-droed yn erbyn timau eraill, ac roedd Beti - menyw leol oedd yn gweithio yn y gwesty - fel rhyw fath o fam iddyn nhw i gyd.
"Byddai pobl leol yn cael eu gwahodd i gyngherddau yn yr ysgol ac ar ddiwedd y gyngerdd byddai'r plant yn canu'r anthem genedlaethol a byddai dagrau yn llygaid y gynulleidfa."
'Cadw'r stori yn ein calonnau'
Ym 1985 cafodd coeden bisgwydden ei phlannu yng ngerddi'r gwesty gan y ffoaduriaid a ddaeth yn ôl i Lanwrtyd ar gyfer aduniad.
Hefyd, yn ôl Peter James, y ffoaduriaid wnaeth gyfrannu'r ddolen gyntaf ar gyfer cadwyn Maer y Dref.
"Y tristwch nawr yw bod y ffoaduriaid yn oedrannus iawn erbyn hyn a phob tro mae aduniad yma mae llai ohonyn nhw'n dod.
"Ond fe fydd y stori yn cael ei chadw yng nghalonnau pobl Llanwrtyd am genedlaethau."