Rhybudd mam ynglŷn â'r peryglon sy'n wynebu beicwyr modur

  • Cyhoeddwyd
terfyn cyflymderFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Dywed elusen Brake fod y risg o ddamweiniau angheuol i feicwyr ar ei lefel uchaf ers 2010

Mae mam a gollodd ei mab mewn gwrthdrawiad gyda char yn annog pobl i gymryd gofal fel rhan o ymgyrch elusen i ddiogelu gyrwyr beic modur.

Daw rhybudd Jasmine Wilson o Geredigion wrth i elusen Brake lansio eu hymgyrch flynyddol yn galw ar fodurwyr i ystyried diogelwch beicwyr modur.

Bu farw Aled Wilson ar 22 Tachwedd 2003 ar ôl cael ei daro gan gar - a doedd y gyrrwr hwnnw ddim yn gwisgo'r sbectol oedd eu hangen arno.

Dywed Mrs Wilson fod yr adeg yma o'r flwyddyn o hyd yn anodd i'r teulu.

Roedd ei mab Aled Wilson, 31 oed, ac yn dad i ddau o blant ifanc, oedd yn pump a 18 mis oed ar y pryd.

"Mae galaru yn waith caled iawn, ac yna mae gennyf y galar ychwanegol nad yw'r wyrion yn cael eu magu yng nghwmni eu tad, oedd yn eu haddoli nhw.

"Rwy'n meddwl amdano bob diwrnod, ac mae yna adegau pan mae'n fy nharo i nad yw e yma mwyach. Mae hynny'n galed."

Disgrifiad o’r llun,

Bu farw mab Jasmine Wilson, Aled, wedi gwrthdrawiad gyda char yn 2003

Clywodd cwest i'w farwolaeth nad oedd y gyrrwr arall yn y gwrthdrawiad yn gwisgo sbectol fel y dylai fod, gan olygu nad oedd wedi gweld Aled.

Nawr, mae Mrs Wilson yn annog pobl i fod yn ofalus ar y ffyrdd er mwyn atal y fath drawma mae hi a'i theulu wedi wynebu.

Perygl ffyrdd gwledig

Beicwyr modur yw un o bob tri o farwolaethau neu anafiadau difrifol ar y ffyrdd.

Yn ôl Joshua Harris, cyfarwyddwr ymgyrchoedd Brake, mae gyrrwr beic modur neu feiciwr yn cael ei ladd neu ei anafu yn ddifrifol bob diwrnod ar ffyrdd Cymru.

"Mae ffyrdd gwledig, gyda phobl yn gor yrru, troadau anodd, a bach iawn o lwybrau seiclo yn llefydd anodd iawn i bobl ar ddwy olwyn.

"Mae'r risg o ddamweiniau angheuol i feicwyr nawr ar ei lefel uchaf ers 2010.

"Rydym yn croesawu fod gan y Cynulliad Cenedlaethol nawr yr hawl i osod cyfyngiadau cyflymder ac rydym yn eu hannog i edrych ar fater cyflymdra ffyrdd gwledig ar unwaith."